Ocê, hwyl 'te. Watsia'r drws ar dy ffordd mas.
Beth sy'n digwydd yw dw i'n trial rhedeg gwefan sydd o ddiddordeb i mi, ac i ddigon o bobl eraill i fod yn werth wneud.
Nid y BBC yw hwn. Dyw e ddim yn bosib i un person rhedeg wefan sydd yn apelio at bawb, a dw i'n dechrau blino trio. Dw i'n nesau at y pwynt ble bydda i'n cau'r wefan i lawr am gwpl o ddiwrnodau bob wythnos jyst i mi gael brêc, a clirio fy mhen. Dw i wedi sôn am hyn nes i mi syrffedu ar swn fy llais fy hun, ond dw i'n dal i gael fy nhyhuddio o fod yn rhyw fath o ffasgwr achos dw i ddim am weld y <i>bandwidth</i> dw i'n talu amdano cael ei ddefnyddio i drafod a ydy Angharad Mair yn ei dderbyn yn ei phen-ôl.
Dw i wedi esbonio rhywle arall pam mae cymaint o seiadau newydd. Os dydy maes-e ddim yn cyrraedd dy anghenion, tria di wneud rhywbeth gwell. Mae digon o le ar y we.