Gwefan drafod yw hon!

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwefan drafod yw hon!

Postiogan nicdafis » Gwe 07 Tach 2003 8:11 pm

Mae pob newid dw i wedi wneud yn diweddar, a bydda i'n wneud yn y dyfodol yn rhan o gynllun cyffredinol sy 'da fi i symud maes-e mewn cyfeiriad penodol, sef bod y wefan drafod orau yn y Gymraeg. Nid yr un mwya poblogaidd, sylwch, er bod ni wedi cipio'r goron honno heb drial yn galed iawn. Nid y <a href="http://aledrjones.me.uk/SiopSiaradFlash/login_html.asp">stafell sgyrsio</a> orau, chwaith. Dw i'n hapus i adael i rywun arall wneud hynny.

Dw i'n gwybod y bydd sawl un yma yn anghytuno â'r cynllun yna, ond dyna fe. Nid democratiaeth mo hon, sori. ;-)

Unrhywbeth alla i wneud i wella maes-e fel gwefan drafod, bydda i'n ei wneud. Unrhywbeth sy'n tueddu gwaethygu maes-e fel gwefan drafod, bydda i'n trial ei newid.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Chwadan » Sad 08 Tach 2003 1:16 pm

Pob parch i ti Nic - ti di creu'r Maes a dod a fo mor bell a hyn lly does gan neb ohona ni fawr o hawl i ddeud dim am y ffordd ti'n meddwl neith o weithio ora. Dwi'n edrych mlaen i weld y maes gorffenedig :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Macsen » Sad 08 Tach 2003 3:22 pm

Nicdafis a ddywedodd:Unrhywbeth alla i wneud i wella maes-e fel gwefan drafod, bydda i'n ei wneud. Unrhywbeth sy'n tueddu gwaethygu maes-e fel gwefan drafod, bydda i'n trial ei newid.


O, diar. Mi af i nol fy nghot.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Sul 09 Tach 2003 8:33 am

Ifan Morgan Jones a ddywedodd: O, diar. Mi af i nol fy nghot.


:lol:

Dw i ddim yn anelu at unrhyw berson penodol, jyst trial newid y fformat er mwyn pethau yn ddiddorol i <i>bawb</i>.

O'n i mewn ffwc o dymor drwg, hefyd, ond dw i'n well erbyn hyn. Os ydy Cymru yn colli heddi, ddo, <i>look owt</i>.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Macsen » Sul 09 Tach 2003 12:55 pm

Nicdafis a ddywedodd:O'n i mewn ffwc o dymor drwg, hefyd, ond dw i'n well erbyn hyn. Os ydy Cymru yn colli heddi, ddo, look owt.


Oh, diar. Mae'r rack cotiau ar y chwith wrth i chi adael, pawb.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr


Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron