Mae pob newid dw i wedi wneud yn diweddar, a bydda i'n wneud yn y dyfodol yn rhan o gynllun cyffredinol sy 'da fi i symud maes-e mewn cyfeiriad penodol, sef bod y wefan drafod orau yn y Gymraeg. Nid yr un mwya poblogaidd, sylwch, er bod ni wedi cipio'r goron honno heb drial yn galed iawn. Nid y <a href="http://aledrjones.me.uk/SiopSiaradFlash/login_html.asp">stafell sgyrsio</a> orau, chwaith. Dw i'n hapus i adael i rywun arall wneud hynny.
Dw i'n gwybod y bydd sawl un yma yn anghytuno â'r cynllun yna, ond dyna fe. Nid democratiaeth mo hon, sori.
Unrhywbeth alla i wneud i wella maes-e fel gwefan drafod, bydda i'n ei wneud. Unrhywbeth sy'n tueddu gwaethygu maes-e fel gwefan drafod, bydda i'n trial ei newid.