Tudalen 17 o 18

PostioPostiwyd: Llun 31 Hyd 2005 4:03 pm
gan Tegwared ap Seion
cawod o ser a ddywedodd:Odd y mrawd i'n helpu fi ymuno a maes-e achos dwim yn dalld fawr ddim syn dechnegol, ag odd o ar frys a dyma fon deud brysiaaaa a nes i ddigwydd troi fy mhen i'r dde a be welish i ond cawod. ond o ni methu bod jysd yn cawod felly dyma ychwanegu dipyn ar y diwadd.
Ma na ryw ring iddo fo, dont u think ? :rolio:


ow, sbia be ti di ddechra wan! sa chdi di gellu sbio ar dy gyrtans neu rwbath...!! :D

PostioPostiwyd: Llun 31 Hyd 2005 4:10 pm
gan Geraint
Achos enw go iawn fi ydi Keith.

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 9:00 pm
gan cawod o ser
dawncyfarwydd a ddywedodd:Dwi'n meddwl bod cawodydd s

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 9:18 pm
gan jac-y-do jones
Jac-y-do Jones o'dd un o'r cymeriade na ar Wynff a Plwmsan do'ch chi byth yn 'i weld - fe, Titw y Tomos Las a Cythbyrt Cadwaladr Huws.

Dyw'r enw ddim yn gliw i bwy ydw i o gwbl - wi ddim yn fachgen o'r enw Jac (wi ddim yn fachgen o gwbl!), wi ddim yn aderyn, wi ddim yn byw ar y to, a ddim y 'nghyfenw i yw Jones! O, wel!!

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 10:55 pm
gan Manon
Geraint a ddywedodd:Achos enw go iawn fi ydi Keith.


Well na Ken, boi. :D

PostioPostiwyd: Mer 02 Tach 2005 12:25 am
gan Llopan
Llopan...achos o'n i 'di peidio ymuno a^ Maes-E am OESOEDD achos do'n i'n methu meddwl am enw difyr. So yn y diwedd rhoddes i lan, a jest ymuno 'da enw rwtsh. Pam Llopan? Wel achos o'n i'n gwisgo llopanau ar y pryd! Ddim yn rocket science...na stori dda chwaith! Dylen i fod wedi dyfeisio stori well...drat.

PostioPostiwyd: Mer 02 Tach 2005 8:00 am
gan Tegwared ap Seion
be 'di llopanau?!

PostioPostiwyd: Mer 02 Tach 2005 8:56 am
gan sian
Tegwared ap Seion a ddywedodd:be 'di llopanau?!


Slipers?

PostioPostiwyd: Mer 02 Tach 2005 10:54 am
gan jac-y-do jones
Iei! Llopanau!! :D

PostioPostiwyd: Mer 02 Tach 2005 12:15 pm
gan Llopan
Woop woop woop! Waw, rhywun o tu fas i'r teulu sy'n gwybod beth yw llopanau!! Diwrnod mawr yn ein hanes. Jac-y-Do, ti'n stalko fi?!