gan nicdafis » Iau 13 Tach 2003 3:44 pm
Fyddwn i fod wedi dileu'r edefyn hwn yn syth swn i wedi ei weld e yn gynharach, ond gan ei fod e wedi troi mas yn eitha adeiladol, wnes i benderfynnu i'w adael.
Fel mae Colm yn awgrymu, dyw e <i>ddim</i> yn ymarfer da i ddechrau edefau jyst er mwyn sarhau aelodau eraill, ac mae pobl wedi cael eu gwahardd am wneud yn y gorffennol.
Os oes wir angen trafod aelodau penodol, nid fan hyn (Cell Gymysg Wleidyddol) yw'r lle i'w wneud ta beth, ond yn y seiat "Defnyddio maes-e". Wna i symud hwn nawr.