Cyfieithu teitlau ffilmiau ayb mewn teitlau edefau

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Di-Angen » Llun 10 Tach 2003 10:54 pm

Aran a ddywedodd:Hmmm... felly mae Maes-E yn mynd i fynnu bod pobl yn sgwennu Saesneg mewn rhai cyd-destunau?


Get over it. Dydy e ddim byd i wneud gyda'r Saesneg. Mae i wneud gyda cyfeirio at ffilmiau/rhaglennu teledu gyda'r enw cywir amdano.

Os ydy pobl am nofio yn erbyn llif diwylliant byd-eang eingl-americanaidd, pob lwc iddynt, meddai fi. O'n i o dan yr argraff dyna oedd holl bwrpas Maes-E.


Na, pwrpas maes-e yw i gael negesfwrdd lle mae'r trafodaethau yn y Gymraeg. Dwi'n gweld e'n ddoniol, though, bod ti'n meddwl bod ail-enwi rhyw shitty Jessica Biel film yn esiampl o "nofio yn erbyn diwylliant eingl-americanaidd". Classic.

Beth bynnag, mae'n amlwg bod y rhan fwyaf o bobl yn eitha enamoured gyda'r diwylliant hynny o'r fath o ffilmiau mae pawb yn son am yma.

Edit: O wel mae Nic newydd gwneud fy mhwynt yn lot gwell
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan brenin alltud » Maw 11 Tach 2003 9:25 am

Gyda llaw, Nic, yn lle bo ti'n cymryd pethe mor bersonol, ymateb at yr hyn 'wedodd diangen o'n i, nid dy sylwadau di! Rhydd 'i bawb ei farn innit.

Di-Angen a ddywedodd:wnai ddim golygu dy neges tro hyn ond paid a'i wneud eto.


Mae hwnna braidd yn unbeniaethol tydi? Sgwrs bod hi'n well cyfeirio at rywbeth yn yr iaith wreiddiol, ond oedd e'n arferiad diniwed oedd yn gweddu fel arfer... e.e. Nwdls yn dweud 'Lladd Bill' yn lle 'Kill Bill' a lot o rai eraill! Mae'r Cymry 'di neud hynny rioed - Cymreigio rhai dywediade Saesneg i'n siwtio ni. Ond mae disbyddu rhywbeth yn oeraidd fel hyn yn lladd y gwreiddioldeb be' bynnag, so na'i adel e fod!

Be' am edefyn newydd Jeni Wine - y Cigydd Cignoeth (Naked Chef) - fase ti'n banio hwnnw 'fyd, diangen?!! O na elli di ddim, hi yw'r 'cymedrolwr'... :winc:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Aran » Maw 11 Tach 2003 10:52 am

nicdafis a ddywedodd:Wel, o leia mae <i>pawb</i> yn fy nghasau nawr. ;-)


wel, wrth gwrs mae hyn yn wir... :winc: o'n i'n meddwl mai wythnos diwethaf oedd dy wythnos am fod yn grac efo'r byd i gyd a phopeth ynddi?...!

digwydd bod i mi heb ddarllen dy ateb di - sori am ddrysu, ond pan cyfeirio at 'Maes-E' ar yr achlysur yma, o'n i'n cyfeirio at y Maes wedi'i chorffori yn agwedd unbeniaethol y cymedrolwr lleol...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Aran » Maw 11 Tach 2003 11:06 am

Di-Angen a ddywedodd:Get over it. Dydy e ddim byd i wneud gyda'r Saesneg. Mae i wneud gyda cyfeirio at ffilmiau/rhaglennu teledu gyda'r enw cywir amdano.


wel, jesd am unwaith, bydd rhaid i mi ymuno yn yr arfer o ddefnyddio geiriau Saesneg, gan mod i ddim yn meddwl bod yna ffordd i alw rhywun yn anally-retentive yn y Gymraeg.

Di-Angen a ddywedodd:Na, pwrpas maes-e yw i gael negesfwrdd lle mae'r trafodaethau yn y Gymraeg.


ia... er mwyn...? nofio'n erbyn y llif, 'neno'r tad. ella nad wyt ti'n meddwl bod angen gweithredu er mwyn arbed yr iaith, ond mae'n ymddangos bod Nic yn meddwl ac yn gweithredu...

Di-Angen a ddywedodd:Dwi'n gweld e'n ddoniol, though, bod ti'n meddwl bod ail-enwi rhyw shitty Jessica Biel film yn esiampl o "nofio yn erbyn diwylliant eingl-americanaidd". Classic.


mae'n amlwg felly nad wyt ti'n dallt llawer am sut mae newid agweddau diwylliannol a phersonol, ond os nad wyt ti'n meddwl bod angen newid, fawr o syndod felly bo chdi ddim yn ei dallt. mae'r ffaith i Aelod Llipa dewis cyfieithiad bywiog yn lle na sgwennu'n y Saesneg yn gysylltiedig yn agos iawn efo'i awydd i gadw at y Gymraeg lle bynnag bod hynna'n bosib - y ffaith i chdi ymateb gan fynnu ei fod o i gadw at y Saesneg o hyn ymlaen pan yn cyfeirio at ffilmiau Saesneg yn hurt, yn haerllug, yn llwyr amhriodol yng nghyd-destun holl fodolaeth Maes-E, ac yn dangos bod cyfrifoldebau cymedrolwr y Maes wedi mynd at dy ben di braidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan cythralski » Maw 11 Tach 2003 11:27 am

Aran, mae isho i ti "gerra grip" fel fyse ffrindiau fi'n deud.

Os yw teitl ffilm yn Saesneg yn wreiddiol - a hwwnw'n cael ei bostio fel 'pwnc newydd' yn y seiat hon - be ydy'r bygythiad i'r iaith Gymraeg cyn belled bod y drafodaeth sy'n dilyn yn y Gymraeg?

Wyt ti'n disgwyl i ni drafod byrygrs "ApDonaldiaid" yn y seiat Bwyd a Diod, neu gerddoriaeth "Centyci E, Eff, Si" yn seiat y SRG?

Ti'n swnio fel bach o ffasgydd ieithyddol i fi.

Unai hwnna neu ti yw ail-ddyfodiad Ricky Hoyw. (Neith hwnna ddim neud sens i unrhyw un o dan 20 - sori).
...and you can tell 'Rolling Stone' magazine that my last words were....
Rhithffurf defnyddiwr
cythralski
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 595
Ymunwyd: Llun 24 Chw 2003 4:44 pm
Lleoliad: Ar goll yn y gofod

Postiogan Aran » Maw 11 Tach 2003 11:47 am

cythralski a ddywedodd:Aran, mae isho i ti "gerra grip" fel fyse ffrindiau fi'n deud.


ella dylet ti fynd yn ôl ac ail-ddarllen beth sydd wirioneddol wedi'i ddeud... :rolio:

'rargian, nad oes neb am eiliad wedi awgrymu y dylid cyfieithu popeth. anghytuno'n chwyrn ydy hyn efo rhywun yn trio deud nad oes gen unigolion yr hawl i ddefnyddio cyfieithiad os dyna be maent isio...

lle yn union ydy'r ffasgiaeth yn hynna?... :rolio:

iesu, mae pobl Cymru'n sydyn ofnadwy i daflu'r gair hyll 'ffasgiaeth' o gwmpas, 'tydan? calliwch...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan cythralski » Maw 11 Tach 2003 12:22 pm

Sori Aran.

Mae'n amlwg mod i lot rhy dwp i fod yn cyfrannu at y drafodaeth hon. Dwi'n methu dilyn hi, does gen i mo'r gallu i ganolbwyntio am fwy na 20 eiliad ac mae'r wisg Franco bron a gorffen ei golch yn y y peiriant.

Esgusodwch fi.

A finnau'n meddwl mai 'ffilmiau a theledu' oedd teitl y seiat wedi'r cwbl. :rolio:
...and you can tell 'Rolling Stone' magazine that my last words were....
Rhithffurf defnyddiwr
cythralski
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 595
Ymunwyd: Llun 24 Chw 2003 4:44 pm
Lleoliad: Ar goll yn y gofod

Postiogan Di-Angen » Maw 11 Tach 2003 1:04 pm

Aran a ddywedodd:ia... er mwyn...? nofio'n erbyn y llif, 'neno'r tad. ella nad wyt ti'n meddwl bod angen gweithredu er mwyn arbed yr iaith, ond mae'n ymddangos bod Nic yn meddwl ac yn gweithredu...


Well dwi'm yn postive rheswm Nic dros sefydlu'r maes ond dydw i ddim yn gweld siarad y Gymraeg yn beth gwleidyddol o gwbl - jyst naturiol yw e. Fe wnes i ddim ymuno a'r lle yma (fel y mwyafrif o bobl rwy'n tybio), i nofio yn erbyn y llif americanaidd (tra'n parhau i watcho ffilmiau american, TV nhw a cerdd), ond yn hytrach achos bod e'n wefan yn y Gymraeg.

Discussion over. Siaradwch am y ffilm neu cwynwch i Nic yn uniongyrchol yn lle messo fyny'r fforwm.
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan brenin alltud » Maw 11 Tach 2003 1:22 pm

Aye, cytuno. Mae'r holl sgwrs yn ddiangen ... :winc:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Nôl

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron