Tudalen 1 o 2

Cyfieithu teitlau ffilmiau ayb mewn teitlau edefau

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 1:20 pm
gan Di-Angen
[Nodyn gan Nic: dw i wedi symud y sylwadau isod o'r trafodaeth am y <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=3217">Texas Chainsaw Massacre</a>, i adael y sgwrs 'na mynd yn ei flaen.]

Gallet ti wneud teitl yr edefynnau yn enwau'r ffilm cywir o hyn allan plis a dim rhyw lame cyfieithiadau? Doeddwn ddim yn gwybod beth ffwc oeddet ti'n son am cyn agor yr edefyn i fyny.

Diolch

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 2:15 pm
gan Ifan Saer
Di-Angen a ddywedodd:Gallet ti wneud teitl yr edefynnau yn enwau'r ffilm cywir o hyn allan plis a dim rhyw lame cyfieithiadau? Doeddwn ddim yn gwybod beth ffwc oeddet ti'n son am cyn agor yr edefyn i fyny.

Diolch


C'laen ia, mae'n hollol amlwg be sydd yn yr edefyn o'i deitl! A mae o yn y seiat ffilms, ffercraissecs!

A mi r'on i yn hynod impressed efo'r cyfieithiad 'fyd, ond dyna fo....

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 2:39 pm
gan Aelod Llipa
A mi r'on i yn hynod impressed efo'r cyfieithiad 'fyd, ond dyna fo....


Diolch Saer, dwi'n gobeithio na fydd y cyfieithiad yn broblem i neb arall :rolio:
Dwi wedi gweld y ffilm gwreiddiol unwaith, ac os dwi'n cofio'n iawn, roedd y gwr gwallgof yn rhedeg o gwmpas efo pen mochyn ar ei ben. Ro'n i'n cachu fy hyn lawer mwy yn y ffilm diweddaraf, ond efallai mai effaith y sinema oedd hynny.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 5:16 pm
gan Di-Angen
Aelod Llipa a ddywedodd:
A mi r'on i yn hynod impressed efo'r cyfieithiad 'fyd, ond dyna fo....


Diolch Saer, dwi'n gobeithio na fydd y cyfieithiad yn broblem i neb arall :rolio:


not the point. dylai edefynnau gael teitlau clir so mae pobl yn gwybod yn union beth sydd ynddynt cyn clicio'r link i'w weld.

wnai ddim golygu dy neges tro hyn ond paid a'i wneud eto.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 5:44 pm
gan Ifan Saer
Oce, reit, derbyn mai chdi di'r cymedrolwr ac ati, ond mae hyn yn digwydd drwy'r amser mewn seiats erill. Pobol yn gneud 'lame cyfieithiad' i rywbeth saesneg, a Hei!! Neb yn ffwndro.

Rwan dwi'n foi reit thic, ond pam dwi yn y seiat 'ffilms' a dwi'n gweld teitl edefyn "Llofruddiaethau Lli Gadwyn Texas", ar ol eiliad bach o feddwl, dwi'n gwbod yn union be ydio.

A mwy na hynny, dwi'n dysgu gair Cymraeg newydd! "Lli gadwyn"!!

(er, mae 'llofruddiaethau' yn anghywir am 'massacre'. 'Cyflafan' yn well, dwi'n meddwl. Dau air newydd! Woo-Hoo!!)

Eniwe, mi wnai gau ngheg i rwan.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 6:14 pm
gan nicdafis
Dw i o blaid teitlau yn yr iaith gwreiddiol (beth bynnag yw'r iaith honno) hefyd, er mod i'n hoffi dysgu geiriau newydd ;-)

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 6:25 pm
gan brenin alltud
Gawd, chi jyst yn gorfod sbwylo pethe bob tro, dydych? Oedd y teitlau wedi'u cyfieithu yn rhyw drend bach 'underground' oedd wedi datblygu'n naturiol ac yn ara' bach ar faes-e, yn nodwedd bach unigryw i'r maes. Oedd e'n braf - pam lai?

Os gariwch chi mlaen fel hyn, fydd 'na ddim gwreiddioldeb ar ol ar y wefan!

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 6:29 pm
gan Aran
Hmmm... felly mae Maes-E yn mynd i fynnu bod pobl yn sgwennu Saesneg mewn rhai cyd-destunau?

Siomedig iawn buasai hynna.

Os ydy pobl am nofio yn erbyn llif diwylliant byd-eang eingl-americanaidd, pob lwc iddynt, meddai fi. O'n i o dan yr argraff dyna oedd holl bwrpas Maes-E.

Nonsens llwyr ydy awgrymu nad yw hi'n bosib i ddeall y ffasiwn cyfieithiad.

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 10:40 pm
gan nicdafis
Pwy sy'n mynnu unrhywbeth? Dim ond rhoi fy marn wnes i. Ffor ffycs sĂȘc, ydw i'n cael rhoi fy marn weithiau heb iddo fod yn ymosod sylfeinol ar ryddid Cymry ifainc y byd? :rolio:

PostioPostiwyd: Llun 10 Tach 2003 10:49 pm
gan nicdafis
A pheth arall!

Os ydy pobl "am nofio yn erbyn llif diwylliant byd-eang eingl-americanaidd" pam ydyn nhw'n mynd i weld ail-fersiynau di-bwynt o ffilmiau Americanaidd yn y lle cyntaf? Dim digon o le yn yr ymarfer cerdd dant?

Dydy newid teitl ffilm ddim yn wneud e yn rhan o'n diwylliant ni, ond, chi'n gwybod, <i>whatever</i>.

Wel, o leia mae <i>pawb</i> yn fy nghasau nawr. ;-)