Cyfieithu teitlau ffilmiau ayb mewn teitlau edefau

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfieithu teitlau ffilmiau ayb mewn teitlau edefau

Postiogan Di-Angen » Llun 10 Tach 2003 1:20 pm

[Nodyn gan Nic: dw i wedi symud y sylwadau isod o'r trafodaeth am y <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=3217">Texas Chainsaw Massacre</a>, i adael y sgwrs 'na mynd yn ei flaen.]

Gallet ti wneud teitl yr edefynnau yn enwau'r ffilm cywir o hyn allan plis a dim rhyw lame cyfieithiadau? Doeddwn ddim yn gwybod beth ffwc oeddet ti'n son am cyn agor yr edefyn i fyny.

Diolch
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Ifan Saer » Llun 10 Tach 2003 2:15 pm

Di-Angen a ddywedodd:Gallet ti wneud teitl yr edefynnau yn enwau'r ffilm cywir o hyn allan plis a dim rhyw lame cyfieithiadau? Doeddwn ddim yn gwybod beth ffwc oeddet ti'n son am cyn agor yr edefyn i fyny.

Diolch


C'laen ia, mae'n hollol amlwg be sydd yn yr edefyn o'i deitl! A mae o yn y seiat ffilms, ffercraissecs!

A mi r'on i yn hynod impressed efo'r cyfieithiad 'fyd, ond dyna fo....
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Aelod Llipa » Llun 10 Tach 2003 2:39 pm

A mi r'on i yn hynod impressed efo'r cyfieithiad 'fyd, ond dyna fo....


Diolch Saer, dwi'n gobeithio na fydd y cyfieithiad yn broblem i neb arall :rolio:
Dwi wedi gweld y ffilm gwreiddiol unwaith, ac os dwi'n cofio'n iawn, roedd y gwr gwallgof yn rhedeg o gwmpas efo pen mochyn ar ei ben. Ro'n i'n cachu fy hyn lawer mwy yn y ffilm diweddaraf, ond efallai mai effaith y sinema oedd hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Aelod Llipa
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 334
Ymunwyd: Llun 27 Ion 2003 4:57 pm
Lleoliad: Sir Ddinbych

Postiogan Di-Angen » Llun 10 Tach 2003 5:16 pm

Aelod Llipa a ddywedodd:
A mi r'on i yn hynod impressed efo'r cyfieithiad 'fyd, ond dyna fo....


Diolch Saer, dwi'n gobeithio na fydd y cyfieithiad yn broblem i neb arall :rolio:


not the point. dylai edefynnau gael teitlau clir so mae pobl yn gwybod yn union beth sydd ynddynt cyn clicio'r link i'w weld.

wnai ddim golygu dy neges tro hyn ond paid a'i wneud eto.
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Ifan Saer » Llun 10 Tach 2003 5:44 pm

Oce, reit, derbyn mai chdi di'r cymedrolwr ac ati, ond mae hyn yn digwydd drwy'r amser mewn seiats erill. Pobol yn gneud 'lame cyfieithiad' i rywbeth saesneg, a Hei!! Neb yn ffwndro.

Rwan dwi'n foi reit thic, ond pam dwi yn y seiat 'ffilms' a dwi'n gweld teitl edefyn "Llofruddiaethau Lli Gadwyn Texas", ar ol eiliad bach o feddwl, dwi'n gwbod yn union be ydio.

A mwy na hynny, dwi'n dysgu gair Cymraeg newydd! "Lli gadwyn"!!

(er, mae 'llofruddiaethau' yn anghywir am 'massacre'. 'Cyflafan' yn well, dwi'n meddwl. Dau air newydd! Woo-Hoo!!)

Eniwe, mi wnai gau ngheg i rwan.
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan nicdafis » Llun 10 Tach 2003 6:14 pm

Dw i o blaid teitlau yn yr iaith gwreiddiol (beth bynnag yw'r iaith honno) hefyd, er mod i'n hoffi dysgu geiriau newydd ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan brenin alltud » Llun 10 Tach 2003 6:25 pm

Gawd, chi jyst yn gorfod sbwylo pethe bob tro, dydych? Oedd y teitlau wedi'u cyfieithu yn rhyw drend bach 'underground' oedd wedi datblygu'n naturiol ac yn ara' bach ar faes-e, yn nodwedd bach unigryw i'r maes. Oedd e'n braf - pam lai?

Os gariwch chi mlaen fel hyn, fydd 'na ddim gwreiddioldeb ar ol ar y wefan!
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Aran » Llun 10 Tach 2003 6:29 pm

Hmmm... felly mae Maes-E yn mynd i fynnu bod pobl yn sgwennu Saesneg mewn rhai cyd-destunau?

Siomedig iawn buasai hynna.

Os ydy pobl am nofio yn erbyn llif diwylliant byd-eang eingl-americanaidd, pob lwc iddynt, meddai fi. O'n i o dan yr argraff dyna oedd holl bwrpas Maes-E.

Nonsens llwyr ydy awgrymu nad yw hi'n bosib i ddeall y ffasiwn cyfieithiad.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan nicdafis » Llun 10 Tach 2003 10:40 pm

Pwy sy'n mynnu unrhywbeth? Dim ond rhoi fy marn wnes i. Ffor ffycs sêc, ydw i'n cael rhoi fy marn weithiau heb iddo fod yn ymosod sylfeinol ar ryddid Cymry ifainc y byd? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Llun 10 Tach 2003 10:49 pm

A pheth arall!

Os ydy pobl "am nofio yn erbyn llif diwylliant byd-eang eingl-americanaidd" pam ydyn nhw'n mynd i weld ail-fersiynau di-bwynt o ffilmiau Americanaidd yn y lle cyntaf? Dim digon o le yn yr ymarfer cerdd dant?

Dydy newid teitl ffilm ddim yn wneud e yn rhan o'n diwylliant ni, ond, chi'n gwybod, <i>whatever</i>.

Wel, o leia mae <i>pawb</i> yn fy nghasau nawr. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron