Tudalen 1 o 3

Cloc maes-e

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 3:17 pm
gan Mr Gasyth
Ai fi ydi o, neu ydi cloc maes-e ryw awr allan ohoni?

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 3:23 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Newid yr amser yn 'Proffeil' i 'GMT +1 awr', a bydd dy ddryswch yn diflannu... :rolio:

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 3:23 pm
gan Geraint
Ah, sneb wedi gofyn hyn am oesoedd

Dos i:
Proffeil - fformat dyddiad - GMT+1 Awr

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 3:24 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Geraint a ddywedodd:Ah, sneb wedi gofyn hyn am oesoedd


Aye, ni fel hyn wyr Maes-E, yn twt-twtian at y plantos bach 'ma, Ger! :lol:

:wps:

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 3:32 pm
gan Geraint
di petha'm run peth a 'sdalwm 'sdi.........

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 5:42 pm
gan Dylan
'dydi nostalgia'r dyddia' yma ddim hanner cystal ag oedd o yn f'oes i

PostioPostiwyd: Maw 05 Ebr 2005 9:32 am
gan joni
Ma rhaid fod hi'n amser i atgyfodi hwn nawr... 8)

PostioPostiwyd: Llun 25 Ebr 2005 11:26 pm
gan Tegwared ap Seion
OND, pan fydda i yn "allgofnodi", ma'r amser bosdish i bob dim wedi mynd nol awr! sydd yn HYNOD conffiwsing! fydd cloc "canolog" y maes yn cael ei newid? ta fydda i yn conffiwsd am byth :crio:

PostioPostiwyd: Llun 25 Ebr 2005 11:32 pm
gan Mali
joni a ddywedodd:Ma rhaid fod hi'n amser i atgyfodi hwn nawr... 8)


:lol:
Ydy , mae o bendant yn awr allan ohoni.Mae'n 4.30pm yma ...wyth awr tu ôl i GMT....ond 3.30pm sydd ar gloc maes-e.
Mali. :)

PostioPostiwyd: Llun 25 Ebr 2005 11:38 pm
gan Barbarella
Tegwared ap Seion a ddywedodd:fydd cloc "canolog" y maes yn cael ei newid? ta fydda i yn conffiwsd am byth :crio:

Mae'n eitha arferol i wasanaethau ar-lein ddefnyddio amser <a href="http://en.wikipedia.org/wiki/Utc">UTC</a>, sydd yn y bôn yr un peth â GMT, ond yn llai daearyddol ei naws.

Petawn ni'n dechrau amrywio'r cloc gyda'r tymhorau, rhaid penderfynu rheolau pwy i ddilyn. Dyw pob aelod o'r Maes ddim yn byw yng Nghymru (na Phrydain!), cofia, ac felly mae'n amhosib newid y cloc heb ddrysu gweddill y byd. Mae rheolau gwahanol gan wledydd gwahanol, rhai yn newid clociau ar ddyddiadau gwahanol, rhai ddim yn newid o gwbl. Yr ateb symla, a mwya derbyniol i bawb, yw i gadw at UTC.