Lefel carma a graddio negeseuon

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan garynysmon » Mer 23 Meh 2004 12:39 am

Dwi ddim yn trio rhoi noc i'r system yma o gwbl (dydi o heb hyd yn oed cael ei thraed oddi tanodd eto!). Ond dwi dal ddim cweit yn berffaith siwr o'r system, oherwydd mae sawl ardal llwyd (grey areas) onid ddim?. Engraifft o hynny yw 90% o'r dyfyniadau ar dop y sgrin. Negeseuon doniol a chofiadwy, ond sydd fwy na thebyg yn hollol 'off-topic' a di-werth i brif ffrwd y sgwrs. Be ydi'r sefyllfa efo pethau felly?
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Aran » Mer 23 Meh 2004 7:49 am

garynysmon a ddywedodd:Engraifft o hynny yw 90% o'r dyfyniadau ar dop y sgrin. Negeseuon doniol a chofiadwy, ond sydd fwy na thebyg yn hollol 'off-topic' a di-werth i brif ffrwd y sgwrs. Be ydi'r sefyllfa efo pethau felly?


Dw i'n meddwl bod hynny'n gwestiwn da. Mae angen defnyddio'r sustem carma mewn ffordd call, a dyna ydy rhan o'r rheswm bod yr hawl i'w defnyddio wedi cael ei rhannu'n araf, ac yn seiliedig ar gyfraniad pobl i'r cymuned...

Mae isio fod yn gytbwys. Dw i heb eto, er enghraifft, roi'r un pwynt carma negyddol i'r un cyfraniad yn y Blwch Tywod, a dw i ddim yn rhagweld gwneud - dim ond ymosodiad personol 'sai'n galw am gymedroli yn fan'na, a byddai angen mwy na phwynt carma negyddol felly...

Ar ran cyfraniadau di-bwys/doniol - pe bai rhywun yn postio llawer o bethe felly a dw i'n gweld nhw i gyd yn ddi-bwys a dim yn ddoniol, 'swn i'n debyg o raddio un ohonyn nhw yn y pen-draw - ond fuaswn i ddim yn graddio pob un.

Mae'n bwysig hefyd osgoi penderfynu bod hwn a hwn yn boen ac wedyn mynd i chwilio am bob neges ganddo bod modd graddio'n negyddol - bydd patrymau felly'n dangos yn glir i'r gweinyddwyr, ac mae modd i ni wedyn dadwneud patrwm annerbyniol o raddio (neu slofi fo i lawr i lefel rhesymol).

Fel unrhyw sustem newydd, wneith o gymryd amser i ddod i arfer efo fo. Ond y peth pwysig ydy safon y Maes. Pe bai'r sustem yma'n troi allan i gael effaith negyddol, fyddai hi ddim yn parhau am yn hir. Yn bersonol, dw i'n amau mai gwella'r lle bydd hi...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan eusebio » Mer 23 Meh 2004 9:52 am

Aran a ddywedodd:Ar ran cyfraniadau di-bwys/doniol - pe bai rhywun yn postio llawer o bethe felly a dw i'n gweld nhw i gyd yn ddi-bwys a dim yn ddoniol, 'swn i'n debyg o raddio un ohonyn nhw yn y pen-draw - ond fuaswn i ddim yn graddio pob un.


Dwi wedi rhoi tic bach difyr i sawl neges 'off-topic' doniol a difyr sydd wedi gwneud i mi boeri llond ceg o goffi ar hyd fy sgrîn.

Mae sawl enghraifft yn yr edefyn chwaraeon o sgwrs yn mynd ar gyfeilion doniol a difyr heb fynd yn hollol hurt - nid oes raid i BOB sgwrs(yn fy marn i) aros ar y pwnc gwreiddiol os yw'n datblygu'n un difyr.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan nicdafis » Mer 23 Meh 2004 9:55 am

Yn gyntaf, rhaid i mi ddweud sori am fod mor lawdrwm neithiwr. Mae Geraint ac Aran wedi wneud yr un pwnytiau heb swnio mor ddi-amynedd a chas. Mae 'na ddigon o le i mi ddysgu sut i fihafio mewn cymdeithas, mae'n debyg :wps:

Mae pwynt am bethau doniol a ffwrdd-â-hi yn un dilys iawn, ond yw hi? Fel mae Aran wedi sôn, cwestiwn o gydbwysedd yw e. Hyd yn oed yn y seiadau mwya "difrifol", mae wastad lle i sylwadau ysgafn sy'n codi'r hwyliau heb ddifetha ar y sgwrs. Y tric yw i nabod y gwahaniaeth, ond dyw hi? Dyma beth oedd 'da fi neithiwr, ond mynegais i fy hunan yn lletchwith iawn.

Ac i'r bobl sydd heb ddiddordeb yn y broses o gadw'r safonau ar y maes yn weddol uchel (fel y maen nhw, wrth gymharu â phob negesfwrdd Cymraeg arall dw i wedi ei weld) alla i ddweud eto bod croeso i chi i'ch barn, a dw i'n fawr gobeithio y byddwch chi'n gallu ffeindio rhywbeth o werth yma heb boeni am y gwaith "tu ôl i'r llenni" sy'n anghenrheidiol i gadw'r lle i fynd. Nid eich problem chi yw hon. Ond os nag oes unrhywbeth adeiladol 'da chi i'w ychwanegu i'r sgwrs, sticiwch at y seiadau lle <b>mae</b> diddordeb 'da chi. Dych chi yn sylweddoli pa mor bryfoclyd byddai fe 'sech chi'n mynd i'r seiat Chwaraeon a phostio rhywbeth fel:

Dw i ddim yn lico chwaraeon. Mae unrhywun sy'n wastraffu ei amser hamdden gwylio pêl-droed yn dwpsin.


Fyddech chi ddim wedi torri unrhyw rheol penodol ar y maes (wel, byddech, achos bod hynny yn trol amlwg, ond dyw e ddim yn "ymosodiad personol") ond dych chi'n gweld pa mor anhebyg yw e y byddai neges fel 'na yn arwain at unrhyw trafodaeth gall?

Yn bersonol, dw i ddim yn ffan mawr chwaraeon fy hun (er mod i'n gwylio ambell gêm). Does dim "hobis" 'da fi, chwaith. Dw i ddim yn un sy'n lico mynd i'r dafarn bob nos. Mae'n lot well 'da fi treulio fy amser sbâr trial datblygu cymunedau uniaith Cymraeg ar y we. Dw i'n gwybod yn iawn pa mor drist yw hynny, ac weithiau dw i'n teimlo fel un o'r dynion trist 'na sy'n adeiladu rheilffyrdd model yn eu llofftiau.

Mae croeso i ti chwarae gyda fy nhrenau bach, ond plis, da ti, paid a chachu ar y traciau ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Lefel carma a graddio negeseuon

Postiogan Barbarella » Mer 23 Meh 2004 10:14 am

Barbarella a ddywedodd:Os ydi neges yn cyfrannu rhywbeth diddorol neu gwerthfawr i'r drafodaeth, yna mae'n neges dda

Dwi'n meddwl bod hiwmor yn sicr yn gallu cyfrannu at drafodaeth, ac yn sicr yn rhywbeth gwerthfawr. Y cyd-destun sy'n bwysig -- defnyddiwch eich synnwyr cyffredin! Os oes jôc sâl ofnadwy mewn edefyn o'r enw "y jôcs gwaetha erioed", am wn i gallai haeddu clec ar y botwm difyr. Ond os yw ynghanol drafodaeth difrifol, ac yn hollol amherthnasol, falle byddai'n ddiwerth. Wrth gwrs, mae gan bawb barn gwahanol ar y pethau hyn, a dyna mantais yr holl syniad yma -- mae'n fwy democrataidd na grwp bach o gymedrolwyr, fydd o anghenrhaid gyda llai o amrywiaethau barn.

Dychmygwch eich bod chi'n cael paned neu beint gyda chriw o ffrindiau, ac yn trafod rhywbeth sy'n gyffredin i chi gyd -- chwaraeon, ffilmiau, gwleidyddiaeth... beth bynnag. Mae un ohonoch chi'n cracio jôc, ac mae pawb yn chwerthin. Grêt!

Nawr dychmygwch yr un sefyllfa, ond bod rhywun feddw iawn yn dod draw atoch chi ac arllwys peint dros un o'ch ffrindiau "am laff", ac yn tarfu ar y sgwrs. Dyna beth sy'n digwydd weithiau ar y Maes. Falle bod y ddau enghraifft yn ddoniol i'r sawl sy'n eu gwneud nhw, ond nawr dyma gyfle i bawb arall ddweud bod un yn dderbyniol, a'r llall ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Aran » Mer 23 Meh 2004 2:12 pm

eusebio a ddywedodd:
Aran a ddywedodd:Ar ran cyfraniadau di-bwys/doniol - pe bai rhywun yn postio llawer o bethe felly a dw i'n gweld nhw i gyd yn ddi-bwys a dim yn ddoniol, 'swn i'n debyg o raddio un ohonyn nhw yn y pen-draw - ond fuaswn i ddim yn graddio pob un.


Dwi wedi rhoi tic bach difyr i sawl neges 'off-topic' doniol a difyr sydd wedi gwneud i mi boeri llond ceg o goffi ar hyd fy sgrîn.

Mae sawl enghraifft yn yr edefyn chwaraeon o sgwrs yn mynd ar gyfeilion doniol a difyr heb fynd yn hollol hurt - nid oes raid i BOB sgwrs(yn fy marn i) aros ar y pwnc gwreiddiol os yw'n datblygu'n un difyr.


Ia, pwynt da - dylwn i fod wedi ychwanegu bod negeseuon sydd YN ddoniol yn haeddu 'difyr', ond wrth gwrs mae pawb yn gweld pethe gwahanol yn ddoniol... mae disgrifiad Barbarella'n berffaith yn hynny o beth, am wn i.

A ga i rybuddio pawb i fod yn ofalus am ymdrech Nic i hawliau nad ydy o ddim yn foi tafarndai? Mae'n andros o anodd i'w gael o i stopio pryniau peintiau pan mae rhywun yn trio cael hanner bach sydyn ac wedyn mynd yn ôl i'w waith... :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Mwnci Banana Brown » Mer 23 Meh 2004 2:44 pm

Oes na bobol heblaw y cymedrolwyr yn cael graddio eto? Os ma'r sustem wedi dechrau ers wthnosau, mae'n broses araf iawn. Os modd gweld ein gradd carma hyd yn oed os nad ydyn yn cael graddio eto?
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Postiogan eusebio » Mer 23 Meh 2004 3:14 pm

Mwnci Banana Brown a ddywedodd:Oes na bobol heblaw y cymedrolwyr yn cael graddio eto? Os ma'r sustem wedi dechrau ers wthnosau, mae'n broses araf iawn. Os modd gweld ein gradd carma hyd yn oed os nad ydyn yn cael graddio eto?


Mae'r sawl sydd â charma positif yn gallu graddio, ond mae'r rhai sydd heb gael y nifer hanfodol o bleidleisiau (neu â charma negatigf) yn gorfod disgwyl.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Mwnci Banana Brown » Mer 23 Meh 2004 6:38 pm

A os modd gweld lefel carma dy hun?
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Postiogan Barbarella » Iau 24 Meh 2004 3:44 pm

<strike>Mae'r pleidleisio wedi ei atal am y tro. Cyfnod prawf yw hyn, ac mae ambell i chwilen fach wedi codi ei phen, felly ni am ladd rheina cyn cario mlaen. Bydd y botymau nôl yn y man!</strike>

Pob dim i weld yn iawn nawr, mae'r botymau nôl...
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai

cron