Ia sa fo'n syniad da cael gweld lefel carma pobol erill dwi'n meddwl - sa fo'n gymhelliant i wella ymddygiad drwg - fel cael sêr am waith da yn ysgol bach.
"I just said that you enjoy the occasional drink...ing binge."
eusebio a ddywedodd:Mae hynny'n bwynt dilys - Barbarella oes yna unrhyw gynlluniau i bawb weld eu carma?
Ni wastad wedi bwriadu trafod gwneud hyn ar ôl i'r system setlo lawr rhywfaint. Dwi'n meddwl bod y pwynt yna wedi dod ers sbel, jysd bod ni heb dod rownd at wneud unrhywbeth. Hmm....
Dwi newydd gael yr hawl i ticio difyr neu diwerth (ac wedi'w defnyddio dwywaith yn barod felly well i mi slofi lawr!) ond be sy'n fy nrysu braidd ydi fy mod i bron yr holl ffordd i'r da gyda pedwar neu pump blwch gwyrdd. Ond fe ddigwyddodd dros nos. Ydi hyn yn golygu fy mod wedi sgwennu rhywbeth hynnod difyr neithiwr neu oes rhaid i chi gyrraedd pedwar blwch neu wbath cyn cael yr hawl i bleidleisio?
Dwi ddim wedi bod yn edrych be di'm carma felly ella fod o'n +3 ddoe ond yn sicr doedd gen i ddim yr hawl i rhoi pwyntiau carma i bobl eraill!