Barbarella a ddywedodd:Mae modd i bawb gweld ei lefel ei hun trwy fynd i'w broffeil -- cliciwch ar "proffeil" ar waelod unrhyw un o'ch negeseuon chi.
Barbarella a ddywedodd:Y bwriad yw bydd y lefel yn ymddangos ar bob neges, o dan eich rhithffurf, ond da ni ddim siwr eto os di'n syniad da i bawb allu weld lefel pawb arall...
rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:dwi methu gweld lefelau carma maeswyr. mae un fi yn ymddangos pam dwi yn clicio ar proffeil fi ond ddim yn ymddangos pan dwi yn clicio ar un dafis
Geraint a ddywedodd:Falle fod en amser hamdden i ti ond wy ti'n sylweddoli faint o waith sydd wedi mynd mewn i'r lle ma? Heb cymedroli ac ati, fydde'r maes wedi mynd yn lle annioddefol yn gyflym iawn.
sian eirian a ddywedodd:Geraint a ddywedodd:Falle fod en amser hamdden i ti ond wy ti'n sylweddoli faint o waith sydd wedi mynd mewn i'r lle ma? Heb cymedroli ac ati, fydde'r maes wedi mynd yn lle annioddefol yn gyflym iawn.
Dyma pam dwi yma. Mae'n lle saff; mae'n lle teg a di-duedd. Yr unig le o'i fath yng Nghymru / y byd-eang. ARDDERCHOG! a Diolch i bawb.
Roedd dad wastad yn son am Welsh-L y fforwm Cymraeg cynta, ac mae o ar gael mewn archif rywle ar y we.
Ond, ymlaen a Maes-E!
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai