Lefel carma a graddio negeseuon

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lefel carma a graddio negeseuon

Postiogan Barbarella » Llun 24 Mai 2004 4:12 pm

Pam y newid?
Mae Maes-E wedi tyfu'n rhy fawr i un person (neu hyd yn oed grwp o bobl) allu weinyddu yn effeithiol. Felly, ry'n ni am rannu'r baich ymysg holl aelodau'r Maes, trwy rhoi rhywfaint o rym i'r gymuned i reoli ei hunan.

Sut mae'n gweithio?
Ar waelod negeseuon, fe welwch chi fotymau i rhoi'ch barn ar y negeseuon hynny. Dim ond hyn a hyn o negeseuon allwch chi raddio mewn cyfnod penodol, felly dewiswch yn ddoeth pa rai sy'n haeddu cael y "bawd i fyny" neu'r "bawd i lawr". Bydd y graddau hyn yn cael eu defnyddio i ddylanwadau ar lefelau carma awduron y negeseuon.

Sut mae graddio negeseuon?
Rhowch glec ar y botwm "Difyr" neu "Diwerth" o dan y neges. Os ydych chi wedi rhoi'ch barn ar y neges yn barod, bydd yn newid y farn flaenorol yn hytrach na chyfri un newydd.

Beth yw neges "difyr"? Beth yw neges "diwerth"?
Mae'n hollbwysig sylweddoli nad pwrpas y system graddio yw cosbi negeseuon nad ydych chi'n cytuno â nhw. Os ydi neges yn cyfrannu rhywbeth diddorol neu gwerthfawr i'r drafodaeth, yna mae'n neges dda, dim ots pa mor ffyrnig rydych chi'n anghytuno ag e. Rhoi eich barn ar <i>werth</i> y neges ych chi, nid <i>barn</i> y neges. Cofnodir eich holl graddau, a bydd camddefnydd o'r system yn y modd yma yn cael effaith negyddol ar eich lefel carma.

Pam ddyliwn i drafferthu graddio negeseuon?
Oherwydd mae bod yn rhan o gymuned yn golygu rhywfaint o gyfrifoldeb hefyd.

Dwi ddim yn gweld y botymau!
Dim ond aelodau sydd â charma positif sydd â'r hawl i rhoi eu barn ar negeseuon. Efallai nad oes digon o raddau wedi cael eu rhoi i'ch negeseuon chi i gyfrifo'ch carma eto -- byddwch yn amyneddgar.

Beth yw lefel carma?
Ffordd o ddynodi eich "gwerth" i'r gymuned. Bydd y lefel yn disgyn a chodi wrth i aelodau eraill y gymuned rhoi eu barn ar eich cyfraniadau. Mae sawl ffactor arall yn dylanwadu ar y lefel carma hefyd.

Sut alla'i gael carma uwch?
Yn syml iawn, dilynwch y canllawiau dangoswyd i chi wrth gofrestru. Postiwch negeseuon diddorol, gwerth eu darllen, sy'n cyfrannu rhywbeth i'r sgwrs. Byddwch yn aelod da o gymuned Maes-E. A'r rheol aur: peidiwch bod yn boen yn y pen-ôl!
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Mwnci Banana Brown » Llun 21 Meh 2004 9:25 pm

Pryd bydd y system hyn yn dechre de? Ma'r neges ma odd'ar y 24ain o Fai- dim golwg o'r bysedd ma o gwbwl! :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mwnci Banana Brown
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1700
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 4:45 pm

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 21 Meh 2004 9:27 pm

Mae'r system wedi dechrau ... dw i'm yn meddwl ti'n cael 'ratio' pobl ar y funud ...
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Lefel carma a graddio negeseuon

Postiogan eusebio » Llun 21 Meh 2004 9:29 pm

Barbarella a ddywedodd:<b>Dwi ddim yn gweld y botymau!</b>
Dim ond aelodau sydd â charma positif sydd â'r hawl i rhoi eu barn ar negeseuon. Efallai nad oes digon o raddau wedi cael eu rhoi i'ch negeseuon chi i gyfrifo'ch carma eto -- byddwch yn amyneddgar.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Machlud Jones » Llun 21 Meh 2004 11:27 pm

Swnio'n system shit i fi.
Machlud Jones
 

Postiogan Huw T » Maw 22 Meh 2004 12:17 am

Os oes rhaid cael 'carma' positif yn y lle cyntaf cyn i ti gael graddio neges, yna pwy sydd ar hawl i raddio yn y lle cyntaf? Achos heb y rhain, ni ellir codi carma eraill. System ryfedd braidd ma'n rhaid fi ddweud. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Barbarella » Maw 22 Meh 2004 12:29 am

Huw T a ddywedodd:Os oes rhaid cael 'carma' positif yn y lle cyntaf cyn i ti gael graddio neges, yna pwy sydd ar hawl i raddio yn y lle cyntaf? Achos heb y rhain, ni ellir codi carma eraill. System ryfedd braidd ma'n rhaid fi ddweud. :?

Mae'r cymedrolwyr wedi bod wrthi ers cwpl o wythnosau -- fersiwn estynedig o gymedroli, os liciwch chi. Mae hynny'n golygu bod rhai aelodau eisoes wedi cael carma da, ac felly yn cael pleidleisio hefyd, gan rannu mwy o garma... ac yn y blaen, fel effaith pelen eira.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Ray Diota » Maw 22 Meh 2004 11:29 am

Machlud Jones a ddywedodd:Swnio'n system shit i fi.


Dwi newydd ffeindio defnydd i'r system... :P
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Machlud Jones » Maw 22 Meh 2004 2:22 pm

Ray Diota a ddywedodd:
Machlud Jones a ddywedodd:Swnio'n system shit i fi.


Dwi newydd ffeindio defnydd i'r system... :P

Da iawn chdi met. Sut ti di cal carma digon da i ddefnyddio'r sustem eni we?
Machlud Jones
 

Postiogan eusebio » Maw 22 Meh 2004 2:23 pm

Machlud Jones a ddywedodd:Da iawn chdi met. Sut ti di cal carma digon da i ddefnyddio'r sustem eni we?


Cyfaniadau difyr/gwerthfawr i'r maes ;)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron