Lefel carma a graddio negeseuon

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dias » Maw 22 Meh 2004 2:24 pm

Diota yn gwneud cyfraniadau difyr... :ofn: :ofn: :ofn:
C'est la vie, c'est la guerre, c'est la pomme de terre
Rhithffurf defnyddiwr
Dias
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 705
Ymunwyd: Sad 14 Chw 2004 5:32 pm

Postiogan nicdafis » Maw 22 Meh 2004 2:55 pm

Machlud Jones a ddywedodd:Da iawn chdi met. Sut ti di cal carma digon da i ddefnyddio'r sustem eni we?


Tip bach. Trial osgoi pethau fel:

Machlud Jones a ddywedodd:Swnio'n system shit i fi.


Mae hawl 'da ti i dy farn, ond <i>pam</i> ydy hi'n hi'n swnio fel sustem shit i ti? Oes awgrymiadau gwell 'da ti ynglŷn â sut allen ni gadw maes-e yn wefan sy'n werth ymweld â fe?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Machlud Jones » Maw 22 Meh 2004 4:19 pm

nicdafis a ddywedodd:
Machlud Jones a ddywedodd:Da iawn chdi met. Sut ti di cal carma digon da i ddefnyddio'r sustem eni we?


Tip bach. Trial osgoi pethau fel:

Machlud Jones a ddywedodd:Swnio'n system shit i fi.


Mae hawl 'da ti i dy farn, ond <i>pam</i> ydy hi'n hi'n swnio fel sustem shit i ti? Oes awgrymiadau gwell 'da ti ynglŷn â sut allen ni gadw maes-e yn wefan sy'n werth ymweld â fe?

Pam ma angen cael ryw gimic fel hwn - oes pobl di bod yn cwyno am y drefn bresennol?
Machlud Jones
 

Postiogan eusebio » Maw 22 Meh 2004 4:29 pm

Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Machlud Jones » Maw 22 Meh 2004 4:43 pm

Onid yw'r system yn mynd yn gores i is-deitl y wefan - "heb y [b]barnu[/b] na'r cystadlu"?
Machlud Jones
 

Postiogan cymro1170 » Maw 22 Meh 2004 4:57 pm

Machlud Jones a ddywedodd:Onid yw'r system yn mynd yn gores i is-deitl y wefan - "heb y barnu na'r cystadlu"?


Pwynt da iawn
Rhithffurf defnyddiwr
cymro1170
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 699
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:14 am
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan nicdafis » Maw 22 Meh 2004 7:22 pm

Machlud a ddywedodd:Onid yw'r system yn mynd yn gores i is-deitl y wefan - "heb y barnu na'r cystadlu"?


O, reit. Diolch am esbonio hynny i fi.

A fyddai'n iawn i mi esbonio rhywbeth i ti nawr? Rhywbeth mae rhan fwya o aelodau maes-e wedi cael gafael ynddo, ond sy dal yn rhy anodd i ti, Machlud.

Eiddo preifat yw'r wefan hon. Does dim hawliau i siarad yn rhydd <b>o gwbl</b> 'da ti yma, oni bai mod i (fel perchennog y safle) neu'r cymedrolwyr a gweinyddwyr (sy'n helpu fi rhedeg y lle) yn rhoi'r hawliau hynny i ti. Os ydyn ni'n penderfynnu gwahardd pawb sy gyda'r llythyren "ch" yn eu henwau, fyddet ti mas, a dyna fyddai diwedd y gân, hyd yn oed 'set ti'n sgwennu at Dave Datblygu ei hunan i ddweud wrtho fe sut ydw i wedi manglo gwir ystyr ei eiriau doethion.

Nawr 'te, wrth gwrs dyw e ddim yn debyg y byddwn i'n wneud rhywbeth mor wirion â banio pobl achos bod ganddynt "ch" yn eu henwau, achos mod i'n gwybod byddwn ni'n colli llawer o aelodau gwerthfawr, a byddai'n rhoi'r argraff i bobl newydd bod y rheolau ar maes-e yn gwbl wallgo a does dim pwynt ymuno â gwefan o'r fath. Felly, yn lle gosod rheolau afresymol, dyn ni'n trial rhedeg maes-e fel ei fod e'n gymuned go iawn.

Mewn cymuned go iawn mae hawliau 'da ti, ac mae cyfrifoldebau 'da ti hefyd. Ar maes-e mae dy gyfrifoldebau yn ddigon syml: paid bod yn boen yn y pen-ôl. Eto, mae hynny yn ddigon syml i'r rhan fwya o'r aelodaeth, ond bob hyn a hyn bydd rhywun yn anghofio ei fod e'n aelod cymuned yma (ie, <b>fe</b> bydd e, yn ddi-eithriad - dw i ddim yn cofio yr un ferch sy'n cwyno am bethau fel hyn ar y maes - pam, felly?) a dydy'r wefan yma ddim yn bodoli am ei les personol ynteu yn unig, ond er lles bob aelod o'r cymuned. Dyma ble mae'r cymedrolwyr yn dod i mewn.

Yn anffodus, dydy'r sustem o gymedrolwyr a gweinyddwyr yn gallu cadw i fyny gyda bob sgwrs ar y maes, felly dyn ni'n trial sustem carma fel "bac-yp", i weld os ydy hynny yn helpu'r cymuned datblygu. Mae opsiynau eraill 'da ni, fel dw i wedi sôn rhywle arall, gan gynnwys rhoi ffî aelodaeth, cau'r wefan i aelodau newydd am sbel a phob math o syniadau eraill fyddet ti'n eu casau cymaint â'r un 'ma. Yr unig peth sy ddim yn opsiwn yw gadael i'r lle fynd yn y cyfeiriad dw i'n amau dy fod di o'i blaid, sef dim rheolau, dim parch at yr aelodau eraill, rhywbeth fel <a href="http://www.fark.com">Fark</a>, ond yn Gymraeg.

Wel, mae'n flin iawn 'da fi, Machlud, ond does dim diddordeb 'da fi o gwbl mewn rhedeg y "Fark Gymraeg". Dw i'n ffeindio gwefannau fel 'na yn ddiflas iawn. Os hoffet ti greu'r Fark Gymraeg, gwych! Beth sy'n dy stopo di?

Does dim ots 'da fi o gwbl dy fod di ddim yn hapus gyda'r sustem carma. Hynny yw, byddai'n well 'da fi 'set ti <i>yn</i> hapus, ond dw i ddim yn mynd i golli cwsg dros y peth. Fel mae'r Sais yn dweud <i>You can't please all the people all the time...</i>

Fel mae Barbarella wedi esbonio, nid yw bwriad y sustem carma i farnu a chystadlu, ond i atgoffa pobl (sy wedi anghofio) sut i ymddwyn mewn cymuned. I bobl sy ddim wedi dysgu hyn o gwbl hyd yn hyn, mae dau ganlyniad bosib: naill ai bydden nhw'n dysgu, neu bydden nhw'n gadael. Dw i'n gobeithio am y canlyniad cyntaf, ond bydd yr ail un yn well na dim.

Felly, os wyt ti wir yn meddwl nad yw maes-e yn ddigon o seis i ti <b>a</b>'r sustem carma, ti'n gwybod beth i'w wneud.

O, anghofiais i rhywbeth: ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Ramirez » Maw 22 Meh 2004 10:03 pm

felly mae o'n eitha tebyg i raddau i system 'feedback' ebay?
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Realydd » Maw 22 Meh 2004 10:59 pm

Nid yw biwrocratiaeth yn mynd yn dda hefo amser hamdden...
Realydd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1779
Ymunwyd: Maw 08 Meh 2004 1:20 pm

Postiogan Geraint » Maw 22 Meh 2004 11:02 pm

Falle fod en amser hamdden i ti ond wy ti'n sylweddoli faint o waith sydd wedi mynd mewn i'r lle ma? Heb cymedroli ac ati, fydde'r maes wedi mynd yn lle annioddefol yn gyflym iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron