Pam y newid?
Mae Maes-E wedi tyfu'n rhy fawr i un person (neu hyd yn oed grwp o bobl) allu weinyddu yn effeithiol. Felly, ry'n ni am rannu'r baich ymysg holl aelodau'r Maes, trwy rhoi rhywfaint o rym i'r gymuned i reoli ei hunan.
Sut mae'n gweithio?
Ar waelod negeseuon, fe welwch chi fotymau i rhoi'ch barn ar y negeseuon hynny. Dim ond hyn a hyn o negeseuon allwch chi raddio mewn cyfnod penodol, felly dewiswch yn ddoeth pa rai sy'n haeddu cael y "bawd i fyny" neu'r "bawd i lawr". Bydd y graddau hyn yn cael eu defnyddio i ddylanwadau ar lefelau carma awduron y negeseuon.
Sut mae graddio negeseuon?
Rhowch glec ar y botwm "Difyr" neu "Diwerth" o dan y neges. Os ydych chi wedi rhoi'ch barn ar y neges yn barod, bydd yn newid y farn flaenorol yn hytrach na chyfri un newydd.
Beth yw neges "difyr"? Beth yw neges "diwerth"?
Mae'n hollbwysig sylweddoli nad pwrpas y system graddio yw cosbi negeseuon nad ydych chi'n cytuno â nhw. Os ydi neges yn cyfrannu rhywbeth diddorol neu gwerthfawr i'r drafodaeth, yna mae'n neges dda, dim ots pa mor ffyrnig rydych chi'n anghytuno ag e. Rhoi eich barn ar <i>werth</i> y neges ych chi, nid <i>barn</i> y neges. Cofnodir eich holl graddau, a bydd camddefnydd o'r system yn y modd yma yn cael effaith negyddol ar eich lefel carma.
Pam ddyliwn i drafferthu graddio negeseuon?
Oherwydd mae bod yn rhan o gymuned yn golygu rhywfaint o gyfrifoldeb hefyd.
Dwi ddim yn gweld y botymau!
Dim ond aelodau sydd â charma positif sydd â'r hawl i rhoi eu barn ar negeseuon. Efallai nad oes digon o raddau wedi cael eu rhoi i'ch negeseuon chi i gyfrifo'ch carma eto -- byddwch yn amyneddgar.
Beth yw lefel carma?
Ffordd o ddynodi eich "gwerth" i'r gymuned. Bydd y lefel yn disgyn a chodi wrth i aelodau eraill y gymuned rhoi eu barn ar eich cyfraniadau. Mae sawl ffactor arall yn dylanwadu ar y lefel carma hefyd.
Sut alla'i gael carma uwch?
Yn syml iawn, dilynwch y canllawiau dangoswyd i chi wrth gofrestru. Postiwch negeseuon diddorol, gwerth eu darllen, sy'n cyfrannu rhywbeth i'r sgwrs. Byddwch yn aelod da o gymuned Maes-E. A'r rheol aur: peidiwch bod yn boen yn y pen-ôl!