Lefel carma a graddio negeseuon

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Llun 26 Gor 2004 12:38 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
lowri larsen a ddywedodd:Dy broblem yw Rhys dy fod yn edrach lawr dy drwyn ac yn barnu rhiwyn sy' n edrach ar y byd drwy lygaid gwahanol i chdi dy hun yn lle dim ond anghytuno efo' person. Sori Rhys mae o angen cal i ddeud.


Dydy hynny ddim yn deg. Ydw dwi yn berson a barn gryf am bethau, barn gryf iawn. Os wyt ti'n gwbod dy fot ti'n iawn mi rwyt ti hefyd yn gwbod fod y person arall yn anghywir! Does geni ddim llawar o ffydd yn fy marn i os ydw i'n meddwl 'falle fod y person arall yn iawn'.



y broblem ydi, o bosib, nad wti'n deall nad oes 'iawn' ac 'anghywir' pan mae'n dod at farn. barn ydi barn, mae 'na gymaint o bobl yn troi trafodaethau yn ffrae am nad ydyn nhw'n gallu gwerthfawrogi fod rydd i bawb ei farn. mi alli di drafod efo rhwyun wti'n wirioneddol anghytuno efo nhw, yn gymharol synhwyrol, cyn bellad a bod y ddau berson yn parchu ei gilydd.

ta waeth, ma hyn yn mynd oddi ar y pwynt. carma. dwi'n dechra mynd yn anniddig iawn am y thingi carma 'ma. mae o'n teimlo'n dandin bod pobl yn cael fotio ar bobl erill. ...fatha pan oni'n sal o'r ysgol am dridia, a eshi'n ol ac mi oedd y gang i gyd 'di fotio bo nhw'm isho fi yn y gang ddim mwy. ffyc, it's y hard laiff. :crio:

siriysli ddo. oes 'na rwyun yn teimlo'r un fath?
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Mr Gasyth » Llun 26 Gor 2004 12:56 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
lowri larsen a ddywedodd:Dy broblem yw Rhys dy fod yn edrach lawr dy drwyn ac yn barnu rhiwyn sy' n edrach ar y byd drwy lygaid gwahanol i chdi dy hun yn lle dim ond anghytuno efo' person. Sori Rhys mae o angen cal i ddeud.


Dydy hynny ddim yn deg. Ydw dwi yn berson a barn gryf am bethau, barn gryf iawn. Os wyt ti'n gwbod dy fot ti'n iawn mi rwyt ti hefyd yn gwbod fod y person arall yn anghywir! Does geni ddim llawar o ffydd yn fy marn i os ydw i'n meddwl 'falle fod y person arall yn iawn'.

Dwi'n ddigon parod i syrthio ar fy mai, fel nesi gyda'r busnas Frizbee yna!


Does yna neb yn gwybod eu bod nhw'n iawn, dim ond meddwl hynny mae nhw. Dio'm bwys pa mor sicir ydan ni ein barn, ma rhaid wastad derbyn fod y person arall yr un mor sicir ac yn amlach na pheidio ellir byd profi pwy sy'n iawn neu ddim. Meddwl 'falle fod y person arall yn iawn, ond sut allai ei berswadio fo fod o ddim' ydi'r ffordd i drafod yn gall dwi'n meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Barbarella » Llun 26 Gor 2004 2:44 pm

Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:ta waeth, ma hyn yn mynd oddi ar y pwynt. carma. dwi'n dechra mynd yn anniddig iawn am y thingi carma 'ma. mae o'n teimlo'n dandin bod pobl yn cael fotio ar bobl erill. ...fatha pan oni'n sal o'r ysgol am dridia, a eshi'n ol ac mi oedd y gang i gyd 'di fotio bo nhw'm isho fi yn y gang ddim mwy. ffyc, it's y hard laiff. :crio:

siriysli ddo. oes 'na rwyun yn teimlo'r un fath?


I fynd â'r gyffelybiaeth iard ysgol ychydig ymhellach -- dychmyga mai ysgol o bron i 1000 oedd hi, ond dim ond llond llaw o athrawon? Byddai'n mynd yn flêr ar ryw bwynt, a'r syniad efo carma yw bod modd hunan-blismona i ryw raddau -- fyddai hynny ddim yn gweithio ar iard ysgol, ond ma dal genna'i chydig bach o ffydd mai nid plant ysgol yw (holl) drigolion y Maes! O drin y peth yn aeddfed (ac mae pawb wedi, hyd yma, o be wela i) gallai fod yn ddefnyddiol iawn.

Trafodaeth am y system carma yw hon gyda llaw, nid am Rhys Llwyd...
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Barbarella » Llun 23 Awst 2004 2:44 pm

Mae ychydig o ddatblygiadau heddiw -- mae nifer fawr o bobl wedi bod yn helpu i gymedroli'r safle trwy ddefnyddio'r botymau Difyr a Diwerth, ac mae'r lefelau carma yn dechrau sefydlogi nawr. Felly ry'n ni wedi penderfynu gadael i bawb weld beth yw eu lefel personol nhw (ond nid rhai pobl eraill).

Bydd yn ymddangos yn eich proffeil (cliciwch ar 'Proffeil' ar waelod unrhyw un o'ch negeseuon).

Beth bynnag yw eich lefel -- da, drwg, niwtral (sef dim digon o bleidleisiau i gyfrifo'r lefel eto) -- nid oes diben cwyno ynglyn â'r peth. Dyna farn eich cyd-faeswyr. Drychwch yn y <a href="viewtopic.php?t=6613">canllawiau graddio</a> am dipiau ar sut i wella eich sgôr. ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan joni » Llun 23 Awst 2004 2:55 pm

Gai jyst holi sut ma'r graff carma yn gweithio? H.y. Ife canol yr wyth bloc yw niwtral gyda gyrdd (positif) yn mynd i'r dde a coch (di-bositif :? ) yn mynd i'r chwith?
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan nicdafis » Llun 23 Awst 2004 3:29 pm

Yn gwmws.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Barbarella » Llun 23 Awst 2004 3:45 pm

Mae modd gosod enwau ar y lefelau gwahanol hefyd, os fyddai hynny'n helpu. Yr enwau sydd yna ar y funud ydi:

Ofnadwy
Uffernol o Wael
Gwael Iawn
Gwael
Eitha Gwael
Niwtral
Eitha Da
Da
Da Iawn
Arbennig o dda
Ardderchog

Ydi'r rhain yn iawn, neu oes rhywun am gynnig enwau mwy creadigol?
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 27 Awst 2004 9:26 pm

Yda ni'n debygol o gadw y sysdem carma yma? Yn bersonol dwi ddim yn meddwl bod o'n gweithio mor dda a hynu. Y tueddiad ydi y mwyaf pell i'r chwith wy ti, a'r mwyaf cenedleutholgar ac o blaid y Gymraeg y mwyaf o carma sydd gyna chdi. Ond wedyn ella bod o ddim yn bwysig faint o carma sydd gan pobl oherwydd bod pawb probably yn meddwl bod nhw sy'n siarad sense felly dydi sysdem carma ddim yn mynd i boeni pobl gormod.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Hogyn o Rachub » Sul 29 Awst 2004 10:38 pm

Dw i'n dueddol o gytuno efo Lowri; dw i'm wedi sylweddoli ar unrhyw newid yn y ffordd y mae pobl yn ysgrifennu neu'n dadlau neu sgyrsio ar y Maes ers i'r drefn dod i rym. Dw i'm yn meddwl bod fawr o ots gan rhanfwyaf o'r aelodau sut fath o garma sydd gynnon nhw. Yn dweud hynny, efallai fyddai hynny'n newid pe fuasai 'na rhywbeth yn actiwli digwydd os mae aelod yn cyrraed y graddfa 'Ofnadwy'? Efallai gwaharddiad amharhaol neu cyfyngiad yn y nifer o negeseuon y maen nhw'n gallu cyfrannu pob dydd/wythnos?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan nicdafis » Llun 30 Awst 2004 8:03 am

Yr unig ganlyniad o gael carma negyddol ar hyn o bryd yw bod rhaid i ti ragolygu dy negeseuon cyn eu postio, gyda'r syniad bydd hyn yn wneud i rywun feddwl dwywaith cyn iddo/iddi bostio rhywbeth dwl.

Mae perygl gyda sustem fel hyn fydd yn troi yn gystadleuaeth poblogrwydd, ond dw i ddim yn gweld bod hynny yn digwydd, a fod yn onest. Fel dw i'n gweld, yn y rhan fwya o achosion, mae bobl sy'n wneud cyfraniad positif i'r safle â charma da, a'r rhai sy'n tueddu gweiddi dros pawb arall, beidio boddran beth mae pobl eraill yn meddwl amdanyn nhw, sy ddim yn gwybod yn gwahaniaeth rhwng dadl ac abiws, nhw yw'r rhai â charma drwg. Mae 'na gwpl o eithriadau, unigolion sy yn wneud cyfraniad positif (yn fy marn i, sef un barn mas o fil) ond sy tueddu weindio pobl lan.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai