Machlud a ddywedodd:Onid yw'r system yn mynd yn gores i is-deitl y wefan - "heb y barnu na'r cystadlu"?
O, reit. Diolch am esbonio hynny i fi.
A fyddai'n iawn i mi esbonio rhywbeth i ti nawr? Rhywbeth mae rhan fwya o aelodau maes-e wedi cael gafael ynddo, ond sy dal yn rhy anodd i ti, Machlud.
Eiddo preifat yw'r wefan hon. Does dim hawliau i siarad yn rhydd <b>o gwbl</b> 'da ti yma, oni bai mod i (fel perchennog y safle) neu'r cymedrolwyr a gweinyddwyr (sy'n helpu fi rhedeg y lle) yn rhoi'r hawliau hynny i ti. Os ydyn ni'n penderfynnu gwahardd pawb sy gyda'r llythyren "ch" yn eu henwau, fyddet ti mas, a dyna fyddai diwedd y gân, hyd yn oed 'set ti'n sgwennu at Dave Datblygu ei hunan i ddweud wrtho fe sut ydw i wedi manglo gwir ystyr ei eiriau doethion.
Nawr 'te, wrth gwrs dyw e ddim yn debyg y byddwn i'n wneud rhywbeth mor wirion â banio pobl achos bod ganddynt "ch" yn eu henwau, achos mod i'n gwybod byddwn ni'n colli llawer o aelodau gwerthfawr, a byddai'n rhoi'r argraff i bobl newydd bod y rheolau ar maes-e yn gwbl wallgo a does dim pwynt ymuno â gwefan o'r fath. Felly, yn lle gosod rheolau afresymol, dyn ni'n trial rhedeg maes-e fel ei fod e'n gymuned go iawn.
Mewn cymuned go iawn mae hawliau 'da ti, ac mae cyfrifoldebau 'da ti hefyd. Ar maes-e mae dy gyfrifoldebau yn ddigon syml: paid bod yn boen yn y pen-ôl. Eto, mae hynny yn ddigon syml i'r rhan fwya o'r aelodaeth, ond bob hyn a hyn bydd rhywun yn anghofio ei fod e'n aelod cymuned yma (ie, <b>fe</b> bydd e, yn ddi-eithriad - dw i ddim yn cofio yr un ferch sy'n cwyno am bethau fel hyn ar y maes - pam, felly?) a dydy'r wefan yma ddim yn bodoli am ei les personol ynteu yn unig, ond er lles bob aelod o'r cymuned. Dyma ble mae'r cymedrolwyr yn dod i mewn.
Yn anffodus, dydy'r sustem o gymedrolwyr a gweinyddwyr yn gallu cadw i fyny gyda bob sgwrs ar y maes, felly dyn ni'n trial sustem carma fel "bac-yp", i weld os ydy hynny yn helpu'r cymuned datblygu. Mae opsiynau eraill 'da ni, fel dw i wedi sôn rhywle arall, gan gynnwys rhoi ffî aelodaeth, cau'r wefan i aelodau newydd am sbel a phob math o syniadau eraill fyddet ti'n eu casau cymaint â'r un 'ma. Yr unig peth sy ddim yn opsiwn yw gadael i'r lle fynd yn y cyfeiriad dw i'n amau dy fod di o'i blaid, sef dim rheolau, dim parch at yr aelodau eraill, rhywbeth fel <a href="http://www.fark.com">Fark</a>, ond yn Gymraeg.
Wel, mae'n flin iawn 'da fi, Machlud, ond does dim diddordeb 'da fi o gwbl mewn rhedeg y "Fark Gymraeg". Dw i'n ffeindio gwefannau fel 'na yn ddiflas iawn. Os hoffet ti greu'r Fark Gymraeg, gwych! Beth sy'n dy stopo di?
Does dim ots 'da fi o gwbl dy fod di ddim yn hapus gyda'r sustem carma. Hynny yw, byddai'n well 'da fi 'set ti <i>yn</i> hapus, ond dw i ddim yn mynd i golli cwsg dros y peth. Fel mae'r Sais yn dweud <i>You can't please all the people all the time...</i>
Fel mae Barbarella wedi esbonio, nid yw bwriad y sustem carma i farnu a chystadlu, ond i atgoffa pobl (sy wedi anghofio) sut i ymddwyn mewn cymuned. I bobl sy ddim wedi dysgu hyn o gwbl hyd yn hyn, mae dau ganlyniad bosib: naill ai bydden nhw'n dysgu, neu bydden nhw'n gadael. Dw i'n gobeithio am y canlyniad cyntaf, ond bydd yr ail un yn well na dim.
Felly, os wyt ti wir yn meddwl nad yw maes-e yn ddigon o seis i ti <b>a</b>'r sustem carma, ti'n gwybod beth i'w wneud.
O, anghofiais i rhywbeth: