garynysmon a ddywedodd:Engraifft o hynny yw 90% o'r dyfyniadau ar dop y sgrin. Negeseuon doniol a chofiadwy, ond sydd fwy na thebyg yn hollol 'off-topic' a di-werth i brif ffrwd y sgwrs. Be ydi'r sefyllfa efo pethau felly?
Aran a ddywedodd:Ar ran cyfraniadau di-bwys/doniol - pe bai rhywun yn postio llawer o bethe felly a dw i'n gweld nhw i gyd yn ddi-bwys a dim yn ddoniol, 'swn i'n debyg o raddio un ohonyn nhw yn y pen-draw - ond fuaswn i ddim yn graddio pob un.
Dw i ddim yn lico chwaraeon. Mae unrhywun sy'n wastraffu ei amser hamdden gwylio pêl-droed yn dwpsin.
Barbarella a ddywedodd:Os ydi neges yn cyfrannu rhywbeth diddorol neu gwerthfawr i'r drafodaeth, yna mae'n neges dda
eusebio a ddywedodd:Aran a ddywedodd:Ar ran cyfraniadau di-bwys/doniol - pe bai rhywun yn postio llawer o bethe felly a dw i'n gweld nhw i gyd yn ddi-bwys a dim yn ddoniol, 'swn i'n debyg o raddio un ohonyn nhw yn y pen-draw - ond fuaswn i ddim yn graddio pob un.
Dwi wedi rhoi tic bach difyr i sawl neges 'off-topic' doniol a difyr sydd wedi gwneud i mi boeri llond ceg o goffi ar hyd fy sgrîn.
Mae sawl enghraifft yn yr edefyn chwaraeon o sgwrs yn mynd ar gyfeilion doniol a difyr heb fynd yn hollol hurt - nid oes raid i BOB sgwrs(yn fy marn i) aros ar y pwnc gwreiddiol os yw'n datblygu'n un difyr.
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:Oes na bobol heblaw y cymedrolwyr yn cael graddio eto? Os ma'r sustem wedi dechrau ers wthnosau, mae'n broses araf iawn. Os modd gweld ein gradd carma hyd yn oed os nad ydyn yn cael graddio eto?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai