Tudalen 11 o 12

PostioPostiwyd: Iau 24 Maw 2005 9:19 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
dwi methu gweld lefelau carma maeswyr. mae un fi yn ymddangos pam dwi yn clicio ar proffeil fi ond ddim yn ymddangos pan dwi yn clicio ar un dafis

PostioPostiwyd: Iau 24 Maw 2005 9:48 pm
gan krustysnaks
achos mai dim ond dy garma dy hun ti'n gallu gweld.

PostioPostiwyd: Iau 24 Maw 2005 11:20 pm
gan nicdafis
Barbarella a ddywedodd:Mae modd i bawb gweld ei lefel ei hun trwy fynd i'w broffeil -- cliciwch ar "proffeil" ar waelod unrhyw un o'ch negeseuon chi.


Barbarella a ddywedodd:Y bwriad yw bydd y lefel yn ymddangos ar bob neges, o dan eich rhithffurf, ond da ni ddim siwr eto os di'n syniad da i bawb allu weld lefel pawb arall...


rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:dwi methu gweld lefelau carma maeswyr. mae un fi yn ymddangos pam dwi yn clicio ar proffeil fi ond ddim yn ymddangos pan dwi yn clicio ar un dafis


Os wyt ti'n poeni am dy lefel carma, falle dylet ti drial <i>darllen</i> yr edefyn cyn i ti ychwanegu ato fe.

PostioPostiwyd: Gwe 25 Maw 2005 11:14 am
gan rhy ddiog i cofio fy enw
syniad da. diolch. a dwi yn dallt wan. dwi teimlo fel ffwl rwan.

PostioPostiwyd: Gwe 25 Maw 2005 12:13 pm
gan Dr Gwion Larsen
Dwi newydd ddarllen drw'r edefyn yma i gyd a mae o'r edefyn efo mwya o crap, di-werth ar ôl Yr Ail Edefyn Hiraf Erioed yn y Blwch Tywod, dachi gyd yn crio bod eich carma yn -, bedi'r ots?Stwff fel hyn
Pawb wasgu ar hwn!
Difyr
pawb sbio ar hwn

:wps:

PostioPostiwyd: Mer 13 Ebr 2005 1:58 pm
gan Barbarella
'Co ni off...

Mae pawb yn gallu gweld lefelau pawb arall erbyn hyn. Peidiwch dod yma i gwyno os ydych chi'n anhapus.

A pheidiwch trio cosbi / gwobrwyo pobl sydd â'r carma "anghywir" yn eich barn chi. Dyw'r system pleidleisio ddim cweit yn gweithio fel yna, a'ch carma chi fydd ar ei golled yn y pendraw!

PostioPostiwyd: Mer 13 Ebr 2005 2:25 pm
gan mam y mwnci
Paid a mynd yn flin (Barbarella) :winc: dwi'n trio darllen popeth cyn gofyn ond ddim yn llwyddo pob tro.Felly naf i just gofyn(anadl ddofn!)
Beth ydi'r botwm adrodd?

PostioPostiwyd: Mer 13 Ebr 2005 2:28 pm
gan Chwadan

PostioPostiwyd: Sad 04 Chw 2006 11:34 pm
gan sian eirian
Geraint a ddywedodd:Falle fod en amser hamdden i ti ond wy ti'n sylweddoli faint o waith sydd wedi mynd mewn i'r lle ma? Heb cymedroli ac ati, fydde'r maes wedi mynd yn lle annioddefol yn gyflym iawn.


Dyma pam dwi yma. Mae'n lle saff; mae'n lle teg a di-duedd. Yr unig le o'i fath yng Nghymru / y byd-eang. ARDDERCHOG! a Diolch i bawb.

Roedd dad wastad yn son am Welsh-L y fforwm Cymraeg cynta, ac mae o ar gael mewn archif rywle ar y we.

Ond, ymlaen a Maes-E!

PostioPostiwyd: Sul 05 Chw 2006 1:23 am
gan HBK25
sian eirian a ddywedodd:
Geraint a ddywedodd:Falle fod en amser hamdden i ti ond wy ti'n sylweddoli faint o waith sydd wedi mynd mewn i'r lle ma? Heb cymedroli ac ati, fydde'r maes wedi mynd yn lle annioddefol yn gyflym iawn.


Dyma pam dwi yma. Mae'n lle saff; mae'n lle teg a di-duedd. Yr unig le o'i fath yng Nghymru / y byd-eang. ARDDERCHOG! a Diolch i bawb.

Roedd dad wastad yn son am Welsh-L y fforwm Cymraeg cynta, ac mae o ar gael mewn archif rywle ar y we.

Ond, ymlaen a Maes-E!


Dwi'n methu coelio fod na fath le a Chymru teg. I gyd mae Cymru wedi rhoi i fi yw dryswch a thristwch. Dyna beth ges i wrth trio ffitio mewn yn Aber a JMJ. 'Doeddwn i byth yn ddigon Gymreig i'r Cymry ac yn rhy Gymraeg i'r Saeson.

Mae Hunaniaeth jyst yn achosi poen i fi i ddweud y gwir. :(