Tudalen 12 o 12

PostioPostiwyd: Gwe 22 Medi 2006 8:06 am
gan nicdafis
*bwp* yn sgil:

Allan o ddidordeb:
Wedi bod ar Maes E ers bron i flwyddyn bellach ond wedi cal Carma gwael ers yr ail wsnos- os chi'n son am chwyldro beth alla i wneud i wella fy nghyfraniadau?

Re: Lefel carma a graddio negeseuon

PostioPostiwyd: Llun 21 Ion 2008 2:04 am
gan Gwenci Ddrwg
Wel yn bersonol dwi'm yn erbyn democratiaeth yn gyffredinol, ond yn y cyd-destun hwn dwi'n credu bod "unbeniaid" yn well ar fforymau ar-lein. Dwi wedi gweld systemau carma yn lleoedd arall a phob amser mae problemau'n cael eu creu, uwchlaw popeth pan mae pobl yn "bwrw" pobl arall oherwydd barn gwahanol, ac ambell waith heb roi rheswm o gwbwl. Yn aml, mae pobl yn ceisio i osgoi rhoi eu barnau cywir achos eu bod nhw ddim eisiau colli carma ac enw da. Mae'r system yn hawdd iawn i gamddefnyddio, yn ôl be dwi wedi gweld yn y gorffennol. Hyd yn oed 'da system lle mae rhaid i'r ddefnyddiwr roi rheswm union pam mae o newydd "fwrw" rhywun, mae pobl yn arfer cymryd eu carma yn rhy ddifrif. Mae'r syniad yn swnio'n dda cyn cynnig arno fo.

Dwi wedi darllan tua deg negeseuon arall yn y bwnc ond os dwi wedi colli rhywbeth pwysig ynddo, mae'n flin 'da fi! Dim ond fy marn gostyngedig ydy hwn felly gwasgwch fi ddim os dwi'n ymddangos yn hollol anghywir.

---

WPS darllenais i ddim y neges gan Hedd! Anwybyddwch hwn! Grrrrr.

Re: Lefel carma a graddio negeseuon

PostioPostiwyd: Iau 08 Mai 2008 7:39 am
gan sian
Dw i wedi gweld eisiau'r system carma sawl gwaith yn ddiweddar.
Pan mae rhywun yn mynd i drafferth i feddwl am bwyntiau perthnasol ac yn eu mynegi nhw'n dda - neu hyd yn oed jest yn rhoi un brawddeg ffraeth - roedd yn braf cael gwneud rhywbeth i'w gwobrwyo nhw!
Dw i'n gwbod bod posib camddefnyddio'r system ond o'n i'n reit hoff ohoni.

Re: Lefel carma a graddio negeseuon

PostioPostiwyd: Iau 08 Mai 2008 10:14 am
gan huwwaters
sian a ddywedodd:Dw i wedi gweld eisiau'r system carma sawl gwaith yn ddiweddar.
Pan mae rhywun yn mynd i drafferth i feddwl am bwyntiau perthnasol ac yn eu mynegi nhw'n dda - neu hyd yn oed jest yn rhoi un brawddeg ffraeth - roedd yn braf cael gwneud rhywbeth i'w gwobrwyo nhw!
Dw i'n gwbod bod posib camddefnyddio'r system ond o'n i'n reit hoff ohoni.


Byse pobol fel rooney yn ei dorri.

Re: Lefel carma a graddio negeseuon

PostioPostiwyd: Iau 08 Mai 2008 11:11 am
gan ceribethlem
Un o'r prif broblemau gyda'r negeseuon carma oedd bod pobl yn marcio cyfraniadau (neu unigolion) nad oeddent yn cytuno a nhw yn goch, yn hytrach na marcio safon yr hyn ddywedwyd.
Pe bai'r carma yn dod nol, byddai'n syniad i gallu gweld pa negeseuon sydd wedi eu marcio'n goch neu'n wyrdd (h.y. pawb i fedru gweld pa un o'i negeseuon eu hunain sydd wedi graddio).