Tudalen 5 o 12

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 5:47 pm
gan eusebio
GT a ddywedodd:Oes yna rhywbeth o'i le arnaf fi? :?


Heh, heh ...
:P

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 8:38 pm
gan Lowri Fflur
GT a ddywedodd:'Dwi'n gweld botymau 'difyr', 'diwerth', ond fedra i ddim gweld lefel carma pobl. Oes yna rhywbeth o'i le arnaf fi? :?


Dim ond cymeradolwyr sy' n medru gweld lefelau carma.

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 8:42 pm
gan Lowri Fflur
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi wedi plymio i ddyfnderoedd coch, er fy mod i +3 gwyrdd ond wythnos yn ol.

Beth sydd wedi digwydd? A'i jyst pobl sy ddim yn cytuno efo be dwi wedi ddeud?


Efallau dy fod wedi gwneud gelynion ryw ffordd neu gilydd Rhys :D

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 9:00 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
alla' im peidio a theimlo fod y sustem yma braidd yn elitaidd. sgin i ddim syniad gwell, mi wrantaf, chydig iawn dwi'n wbod am gyfrifiaduron rili, ond dwi dan yr argraff fod hyn jysd ynglyn a thrio bod yn boblogaidd. er enghraifft efo rhys llwyd uchod; dwi'n anghytuno'n chwyrn efo amball beth mae o 'di ddeud yn ddiweddar, ond rhydd iddo fo'i farn fatha pawb arall, ydi o ddim yn mynd i annog pobl fel rhys druan i ddeud petha neith blesio yn y dyfodol, yn hytrach na'r hyn mae o'n deimlo?

mashwr eith 'y ngharma i i lawr rwan. :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 9:33 pm
gan Cardi Bach
Tracsiwt Gwyrdd a ddywedodd:alla' im peidio a theimlo fod y sustem yma braidd yn elitaidd. sgin i ddim syniad gwell, mi wrantaf, chydig iawn dwi'n wbod am gyfrifiaduron rili, ond dwi dan yr argraff fod hyn jysd ynglyn a thrio bod yn boblogaidd. er enghraifft efo rhys llwyd uchod; dwi'n anghytuno'n chwyrn efo amball beth mae o 'di ddeud yn ddiweddar, ond rhydd iddo fo'i farn fatha pawb arall, ydi o ddim yn mynd i annog pobl fel rhys druan i ddeud petha neith blesio yn y dyfodol, yn hytrach na'r hyn mae o'n deimlo?

mashwr eith 'y ngharma i i lawr rwan. :rolio:


Wrth gwrs m hynny yn beryg, ac yn un sydd wedi ei wyntyllu ers y dechrau - arbrawf yw hwn o hyd cofier.

Ond y pwynt yw - i'r rhai hynny sydd yn gallu pleidleisio - nodi GWERTH y cyfraniad, nid a yw rhywun yn cytuno a barn rhywun arall.

Er enghraifft pur anamal fydda i'n cytuno a Newt Gingrich (gweler yr edefynnau gwleidyddol) ond fi wedi rhoi tipyn o bleidleisiau 'Difyr' iddo am fod ei gyfraniadau yn ychwanegu at y sgwrs ac yn...ddifyr. Ond wedyn mae eraill yn cael pleidlais 'shait' gyda fi am mai dyna yw eu cyfraniad - er falle mod i'n cytuno a'r sentiment.

Does dim rhaid tono lawr unrhyw farn wedyn, mond ei gyflwyno mewn modd sydd am gyfrannu at y sgwrs.

Odw i'n neud sens?

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 10:04 pm
gan Rhys Llwyd
dwi'n i chael hin annodd iawn mynd i fewn i drafodaethau difyr ar y maes ers bron i flwyddyn bellach.

Mae bron pob edefyn yn cael ei chwalu gan naillai In jokes maes-e (yn bennaf maeswyr y de ddwyrain, chi'n gwbod pwy ydych chi :winc:)

neu

Rhywyn yn herio fy hawl i roi barn ar sail rhywbethn fel, "ti'n sgwennu i barn", "w ti mewn band", "w ti ar senedd cyi" ayyb.... so what!!!!

dydy dim un o rheini yn effeithio ar fy hawl i roi barn! y ffys yma i gyd jyst oherwydd mod i ddigon onest i ddefnyddio fy enw go-iawn! :x

Odd well gin i maes-e pan oedd pawb yn cytuno efo fi. Bring back maes-e gaeaf 2002/2003!

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 10:06 pm
gan Dr Gwion Larsen
ella bo barn pobl ata chdi wedi newid ers hyny :winc:

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 11:14 pm
gan Ffion1
GT a ddywedodd:'Dwi'n gweld botymau 'difyr', 'diwerth', ond fedra i ddim gweld lefel carma pobl. Oes yna rhywbeth o'i le arnaf fi? :?


Wel, oe....., ta waeth! :lol:

PostioPostiwyd: Mer 21 Gor 2004 11:30 pm
gan nicdafis
Rhys Llwyd a ddywedodd:Odd well gin i maes-e pan oedd pawb yn cytuno efo fi. Bring back maes-e gaeaf 2002/2003!


Bolycs. Bring back maes-e Awst 18 2002.

PostioPostiwyd: Iau 22 Gor 2004 8:58 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Fi'n pingio nol a 'mlaen rhwng dau far a thri bar gwyrdd ar hyn o bryd. Sy'n beth da a gweud y gwir, achos mae'n dangos 'mod i'n ddigon doniol/deallus i bobl fy hoffi, ond yn ddigon dadleuol/annoying hefyd... :crechwen: