Tudalen 8 o 12

PostioPostiwyd: Llun 30 Awst 2004 10:09 am
gan Lowri Fflur
Rhys Llwyd a ddywedodd:
lowri larsen a ddywedodd:Dy broblem yw Rhys dy fod yn edrach lawr dy drwyn ac yn barnu rhiwyn sy' n edrach ar y byd drwy lygaid gwahanol i chdi dy hun yn lle dim ond anghytuno efo' person. Sori Rhys mae o angen cal i ddeud.


Dydy hynny ddim yn deg. Ydw dwi yn berson a barn gryf am bethau, barn gryf iawn. Os wyt ti'n gwbod dy fot ti'n iawn mi rwyt ti hefyd yn gwbod fod y person arall yn anghywir! Does geni ddim llawar o ffydd yn fy marn i os ydw i'n meddwl 'falle fod y person arall yn iawn'.

Dwi'n ddigon parod i syrthio ar fy mai, fel nesi gyda'r busnas Frizbee yna!


Os wy ti yn dangos parch at y person ti'n dadla efo ti'n derbyn efallau ei bod nhw mor siwr ei bod nhw'n iawn ag yr wyt ti dy fod di yn iawn.

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 3:06 pm
gan Gwen
Cwestiwn ynglyn â sut mae'r system yn gweithio...

Dwi wedi bod yn ticio 'difyr' i un aelod sydd wedi bod yn dweud petha digon, wel, difyr yn seiat Defnydd yr Iaith, ond dydi carma'r person yma ddim wedi codi o gwbwl. Ydi hyn am mai fi yn unig sydd wedi bod yn pleidleisio a bod angen i fwy nag un wneud rhag ofn i rywun gamddefnyddio'r drefn? Er gwybodaeth, dwi ddim yn nabod y person yma o gwbwl yn y cigfyd, dim ond bod gen i ddiddordeb gwybod.

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 3:56 pm
gan Barbarella
Gwen a ddywedodd:Dwi wedi bod yn ticio 'difyr' i un aelod sydd wedi bod yn dweud petha digon, wel, difyr yn seiat Defnydd yr Iaith, ond dydi carma'r person yma ddim wedi codi o gwbwl

Mae'r sustem chydig bach fwy cymhleth na hynny, ond yn gyffredinol, bydd un pleidlais ddim yn ddigon i newid lefel rhywun. Cofia mai dim ond 10 lefel sy 'na, a mae'n bosib bod y person dan sylw wedi derbyn cannoedd o bleidleisiau yn barod. Ac mae na bethau eraill yn cael eu hystyried hefyd.

I bobl sy ddim yn gwybod am beth mae Gwen yn sôn, mae hi'n gymedrolwr, ac felly yn gallu gweld lefelau carma pobl eraill, yn ogystal â'i charma ei hun.

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 3:59 pm
gan Twyllwr Rhinweddol
Barbarella a ddywedodd:Ac mae na bethau eraill yn cael eu hystyried hefyd.


Fel be'??

PostioPostiwyd: Iau 21 Hyd 2004 4:18 pm
gan Macsen
Pryd mae'r arbrawf hwn am ddod i ben neu gael ei sefydlu'n iawn?

Pam fod un o weinyddwyr y Maes yn dweud mai arbrawf yw rywbeth ti'n gwybod ei fod yna i aros - dull o allwyro beirniadaeth yw dweud mai prawf ydi o, yn amlwg. Dwi'n siŵr bydd yr hysbysebion Google, prawf arall, yn dal i lechu ar ymyl y sgrin pan ddaw Sul y pys. :)

Dim ysu i gael dangos ffwrdd fy ngharma ydw i, gyda llaw. Ylwch: Delwedd

PostioPostiwyd: Llun 29 Tach 2004 9:28 pm
gan Cynan Bwyd
sut i chin gwbo os ma carma chin bosatif? dwi just efo rhyw 6 bloc du? yw hynnyn dda?

PostioPostiwyd: Maw 30 Tach 2004 1:01 pm
gan Barbarella
Cynan Llwyd a ddywedodd:sut i chin gwbo os ma carma chin bosatif? dwi just efo rhyw 6 bloc du? yw hynnyn dda?

Mae hynny'n golygu bod gen ti garma niwtral -- hynny yw, does dim digon o bobl wedi rhoi eu barn ar dy negeseuon, naill ffordd neu'r llall, i allu gyfrifo'r carma eto.

PostioPostiwyd: Maw 30 Tach 2004 1:07 pm
gan Dai dom da
Newydd sylwi ar y Karma thing 'na, ohhh bolycs: Delwedd

PostioPostiwyd: Maw 30 Tach 2004 3:52 pm
gan Dr Gwion Larsen
na tin -3 wan :D
ond di postio negeseuon fel yr uchod am sylw byth yn helpu sdi :winc:

PostioPostiwyd: Maw 30 Tach 2004 3:55 pm
gan methu meddwl
ma raid fod carma fin shit cos dwi heb weld sgwar du na coch na unriw liw erioed ar thing fi

dwi fod i chwilion rwla amdany fo? aaaah wan dwin conffiwsd)