Postiwyd: Llun 30 Awst 2004 10:09 am
Rhys Llwyd a ddywedodd:lowri larsen a ddywedodd:Dy broblem yw Rhys dy fod yn edrach lawr dy drwyn ac yn barnu rhiwyn sy' n edrach ar y byd drwy lygaid gwahanol i chdi dy hun yn lle dim ond anghytuno efo' person. Sori Rhys mae o angen cal i ddeud.
Dydy hynny ddim yn deg. Ydw dwi yn berson a barn gryf am bethau, barn gryf iawn. Os wyt ti'n gwbod dy fot ti'n iawn mi rwyt ti hefyd yn gwbod fod y person arall yn anghywir! Does geni ddim llawar o ffydd yn fy marn i os ydw i'n meddwl 'falle fod y person arall yn iawn'.
Dwi'n ddigon parod i syrthio ar fy mai, fel nesi gyda'r busnas Frizbee yna!
Os wy ti yn dangos parch at y person ti'n dadla efo ti'n derbyn efallau ei bod nhw mor siwr ei bod nhw'n iawn ag yr wyt ti dy fod di yn iawn.