Tudalen 10 o 12

PostioPostiwyd: Mer 09 Maw 2005 5:35 pm
gan Gruff Lovgreen
Ia sa fo'n syniad da cael gweld lefel carma pobol erill dwi'n meddwl - sa fo'n gymhelliant i wella ymddygiad drwg - fel cael sêr am waith da yn ysgol bach. :D

PostioPostiwyd: Mer 09 Maw 2005 5:37 pm
gan eusebio
Mae hynny'n bwynt dilys - Barbarella oes yna unrhyw gynlluniau i bawb weld eu carma?

PostioPostiwyd: Mer 09 Maw 2005 5:46 pm
gan Gruff Lovgreen
Iei - "pwynt dilys" - di huna'n golygu codiad yn fy ngharma? :winc:



Newydd ddarllan hwna'n ôl a ma'n swnio'n dodgy. :?

PostioPostiwyd: Mer 09 Maw 2005 5:56 pm
gan Barbarella
eusebio a ddywedodd:Mae hynny'n bwynt dilys - Barbarella oes yna unrhyw gynlluniau i bawb weld eu carma?

Ni wastad wedi bwriadu trafod gwneud hyn ar ôl i'r system setlo lawr rhywfaint. Dwi'n meddwl bod y pwynt yna wedi dod ers sbel, jysd bod ni heb dod rownd at wneud unrhywbeth. Hmm....

PostioPostiwyd: Mer 09 Maw 2005 5:57 pm
gan nicdafis
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Wiwer y Coed a ddywedodd:Be ffwc di'r bollox carma ma y basdads? :?: :?: :?: :?: :?: :?: :drwg: :drwg: :drwg:


Ca' dy ffycin ben. Twpsyn.


Paid â bwydo'r troliau, mae e wedi ei wahardd.

PostioPostiwyd: Mer 09 Maw 2005 6:35 pm
gan SbecsPeledrX
Dwi newydd gael yr hawl i ticio difyr neu diwerth (ac wedi'w defnyddio dwywaith yn barod felly well i mi slofi lawr!) ond be sy'n fy nrysu braidd ydi fy mod i bron yr holl ffordd i'r da gyda pedwar neu pump blwch gwyrdd. Ond fe ddigwyddodd dros nos. Ydi hyn yn golygu fy mod wedi sgwennu rhywbeth hynnod difyr neithiwr neu oes rhaid i chi gyrraedd pedwar blwch neu wbath cyn cael yr hawl i bleidleisio?

Dwi ddim wedi bod yn edrych be di'm carma felly ella fod o'n +3 ddoe ond yn sicr doedd gen i ddim yr hawl i rhoi pwyntiau carma i bobl eraill!

PostioPostiwyd: Mer 09 Maw 2005 8:40 pm
gan nicdafis
Dydy'r sustem ddim yn cicio mewn nes bod 10 pleidlais 'da ti. Os ydy'r 10 'na i gyd yn bositif, ti'n debyg i ddechrau gyda charma go dda.

PostioPostiwyd: Llun 14 Maw 2005 4:06 am
gan sbwriel
Ma hwn yn sustem od y diawl! Eto, mae'n teimlo'n dda os yw digon o bobl yn dy lico... jyst!

Barbarella, sustem mentrus,hwylus ac arbrofol (o be allai weld!) bach o gianstar ar yr hen php yfe?

Falch fod fi or diwedd yn gallu ei ddefnyddio! (plis dim marciau gwael i fi :) )

PostioPostiwyd: Iau 24 Maw 2005 9:04 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
pam dydy rhai lefel carmas ddim yn ymddangos gan rhai pobl e.e. nic dafis a Methu meddwl

PostioPostiwyd: Iau 24 Maw 2005 9:16 pm
gan Al
rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:pam dydy rhai lefel carmas ddim yn ymddangos gan rhai pobl e.e. nic dafis a Methu meddwl


be ti feddwl, pam tim yn gedru gweld carma pobl eraill?