Falle dyw hyn ddim yn amlwg, felly mae'n werth dweud. Os wyt ti'n defnyddio'r botwm "Gwylio'r pwnc hwn am ymatebion" ar dy gyfrifiadur yn y gweithle, ac wedyn mynd ar dy wyliau gan adael neges "Auto-reply" ar dy gyfrif ebost, bydd bob neges "Hysbysiad Ymateb mewn Trafodaeth" yn cael ei bownsio i fy mewnblwch personol i, a dw i'n gallu gweld pa edeifion ti'n gwylio.
Sdim lot o ots 'da fi am hyn, ond falle bod ots 'da ti.
Bydd yr un peth yn digwydd os wyt ti wedi gofyn am gael dy hysbysebu trwy ebost bob tro ti'n derbyn neges sydyn ar y maes.