Mae rheol wedi ei dynnu am gwmniau teledu.
Rheol da a chyfiawn.
Mae'n ymddangos serch hynny fel mai nid dim ond cwmniau teledu sy'n euog.
Heddiw mae neges gan Y Craethwyr, sy'n son am gig ganddynt. Mae un hefyd gan Alien Soup Factory. Falle mod i'n bod yn anheg a'r Craethwyr a ASF a fod yrhain yn awyddus i gyfrannu yn helaeth at y maes, ond nid ydynt ar eu pennau ei hunen.
Mae sawl aelod ar y maes gyda prosiectau eraill, ac ermwyn hyrwyddo eu prosiectau ma nhw'n creu cyfrif arall yn enw'r prosiect dim ond i hysbysebu.
Yw hyn yn iawn?
Wrth gwrs, mae sawl un yma bellach wedi dod yn ffrinidau ac yn adnabod ein gilydd, a'r tueddiad yma fydd i amddiffyn hyn a'n cyfeillion sydd yn gwneud hyn.
Ond cymrwch gam yn ol. Os yw'n anghywir i gwmniau teledu ei wneud, onid yw yr un mor anghywir i hyrwyddwyr gigiau, trefnwyr gwyliau, bandiau, crewyr cylchgronnau ayb ayb?
Pam creu cyfrif newydd yn enw'r band, neu gylchgrawn os yw rhywun eisioes yn aelod?
Wy ddim am wahardd hysbysebu digwyddiad, neu lyfr neu dim byd fel'yna, mewn gwirionedd mond vael trafodaeth am y peth gynta, chos mwy na thebyg mod i heb ydtyried pob-peth ac amgylchiadau pawb ac fod posib ei gyfiawnhau.
Os felly, gwd, a sori i wastraffu'ch amser.
Ond beth chi'n feddwl?