Leusa a ddywedodd:- Pan 'dw i yn siarad efo pobol 'dw i yn chwilio am y botwm emosiynau i ddangos be 'dw i'n feddwl.
- Pan 'dw i'n deud rwbath drwg 'dw i yn chwilio am y botwm 'golygu neges'.
- pam 'dw i yn clywed joc neu stori dda, 'dw i yn chwerthin a deud, 'ohoho a'i ddeud ar maes-e rwan...'
- 'dw i'n galw ffrindia wrth eu ffug-enwa ac yn gwgu yn od ar bobol sydd ddim.
- 'dw i'n dechra cael fy nabod fel Leusa maes-e, a mae pobol yn meddwl mai joc ydio pan na i dropio hint o fy snam. [Mond Cher a Madonna sydd efo un enw chi ]
- pan mae na rhywun yn y byd go iawn yn rhegi yn wyllt, 'dw i yn mynd yn paranoid bod na rhywun ar ei fannio fo/hi
wpsis
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai