Diwedd y mis byddaf yn codi fy mhac a neidio ar awyren fawr oren a gwyn i fynd ar wyliau i Split yn Croatia. Oes 'na rywun o'r maes wedi bod i'r gornel hwnnw o'r byd o'r blaen?
Unrhyw awgrym o le i fynd, beth i'w fwyta, ayyb?
Dilyn hynt y cerrynt caeth mae deilen fy modolaeth...
Dwi byth wedi bodio, ond dwi wedi rhio lifft i un fodiwr yn fy mywyd o Bow Street i Aberystwyth. Ffac, o'dd e'n drewi - ond boi digon dymunol chware teg. Sdim byd yn erbyn pigo lan bodwyr genna i, dwi jyst ddim yn gweld llawer o nhw o gwmpas diwrnode ma.