Tudalen 1 o 1

UDA

PostioPostiwyd: Sul 26 Rhag 2004 7:19 pm
gan Cwlcymro
Dwi'n meddwl mynd i'r Unol Daleithiau am gwpwl o wythnosa ha nesa. Dwi ffansi trafeilio rownd un ardal, ond methu penderfynnu pa un. Y dewis ydi:
Y De (Mississippi, Alabama etc)
New England
Californio + Nevada
Y Rockies
Y Llynoedd a Chicago
O gwmpas Efrog Newydd a Washington

Unrhyw help efo'r dewis?

PostioPostiwyd: Maw 28 Rhag 2004 8:47 pm
gan Madrwyddygryf
Mae'n dibynnu beth wyt ti yn chwilio am.

Os wyt ti yn meddwl gwneud llefydd fel California neu Nevada, opsiwn da yw gwneud pecyn fly-drive lle gellir cael tocyn hedfan a car i'w rhentu. Wedyn gelli di fynd ble bynnag wyt ti yn teimlo. Mae California a Nevada wedi hadeiladu ar gyfer ceir. Mi es i ddreifio o Santa Cruz i San Huan Obisbo lawr y Highway Number 1 sef y Big Sur. Gwych.

Ar gyfer Washington DC ac Efrog Newydd, syniad da i'w gwario mwyafrif o dy amser yn Efrog Newydd. Ond wedyn rhoi tua tri diwrnod i weld popeth yn Washington DC, bydd ti'n siwr o weld popeth wyt ti moyn gweld yna o fewn tri diwrnod hwnnw. Bydd angen oleua wsnos yn Efrog Newydd a siopa hefyd.

PostioPostiwyd: Maw 28 Rhag 2004 10:50 pm
gan huwwaters
Wel mewn pythefnos nes i rentu car o Connecticut, a trafelio trwy CT. Efrog Newydd, New Jersey, Pennsylvania, Maryland, D.C., Virginia ac i lawr at Raleigh yn North Carolina, ac wedyn ymlaen i fyny trwy Delaware yn ol i Efrog NEwydd. Yn ystod hwn, ymweld a Baltimore, Philadelphia, Raleigh, New Haven, Efrog NEwydd y ddinas, Newark etc.. Lot o bethe i weld.

PostioPostiwyd: Iau 30 Rhag 2004 10:23 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mae'r de yn lle da i weld ochr arall America, yr America nad y'ch chi'n ei gweld ar y teledu ac ar flaen cerdyn post. Hefyd, diddorol gweld shwt mae pobl gall yn ymdopi â'r diwylliant uber asgell dde sy'n rhemp ar hyn o bryd - nes i gwrdd â phobl ddiddorol iawn! :D

PostioPostiwyd: Gwe 31 Rhag 2004 12:09 am
gan Cwlcymro
O be dwi'n ddeall ti angen bod yn 25/26 oed i rentio car yn America, dwi di disgwl tan bo fi ddigon hen i yfad yna, allai'm disgwl 5 mlynadd arall!
Felly yr unig opsiwn sydd gynna fi ydi Tocyn Greyhound.
Syniad heddiw (dwi'n cal un newydd bob diwrnod!) ydi trafeilio o Efrog Newydd mewn 15 diwrnod trwy Cleveland, Chicago, St Louis a Kansas City. Mi reith hunna 8 talaith i fi, sy'n fwy na digon swn i'n feddwl! (Cofiwch erbyn fory mi fyddai di meddwl am syniad "gwell"!)

PostioPostiwyd: Gwe 31 Rhag 2004 12:17 pm
gan Cwlcymro
Mae'n costio £420 i hedfan BA o Heathrow i Efrog Newydd. Ond os yda chi'n dechra yn Milan, newid yn Heathrow i'r UNION RHYN AWYREN dim ond £320 ydio! Ai jusd ni sydd yn cael ei conio ta oes na reswm?

PostioPostiwyd: Gwe 31 Rhag 2004 12:18 pm
gan S.W.
Cer ar fysus Grayhound (fel National Express yma) mae nhw'n dda i drafeilio. Mi wnes i a ffrind drafeilio ar y Grayhound o Efrog Newydd i Niagra Falls, i Chicago, i Madison yn Wisconsin ac i St Paul yn Minnesota mewn 7 diwrnod. Mi elli di cael pass arbennig sy'n gadael i ti drafeilio mor bell a hoffi di arnynt nhw mewn 7 diwrnod (mae opsiynau am mwy o ddyddiau ar gael).

PostioPostiwyd: Gwe 31 Rhag 2004 12:23 pm
gan Cwlcymro
S.W. a ddywedodd:Cer ar fysus Grayhound (fel National Express yma) mae nhw'n dda i drafeilio. Mi wnes i a ffrind drafeilio ar y Grayhound o Efrog Newydd i Niagra Falls, i Chicago, i Madison yn Wisconsin ac i St Paul yn Minnesota mewn 7 diwrnod. Mi elli di cael pass arbennig sy'n gadael i ti drafeilio mor bell a hoffi di arnynt nhw mewn 7 diwrnod (mae opsiynau am mwy o ddyddiau ar gael).


Dyna dwi'n feddwl wneud, £130 am bass 15 diwrnod.
Dwi dal yn trio ffendio awyren ddo. Y rhata sgyna fi rwan ydi £310 sy'n mynd a fi o Lerwpl i Paris i Frankfurt i Efrog Newydd!!! (A trw bob un ar ffor nol!)

PostioPostiwyd: Sad 01 Ion 2005 6:39 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Cwlcymro a ddywedodd:O be dwi'n ddeall ti angen bod yn 25/26 oed i rentio car yn America, dwi di disgwl tan bo fi ddigon hen i yfad yna, allai'm disgwl 5 mlynadd arall!


Nag wyt. Un ar hugain, fi'n credu. Nath fy ffrind rentu car i ni, ac mae hi'n ddwy ar hugain.

PostioPostiwyd: Sad 01 Ion 2005 9:55 pm
gan Cwlcymro
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:O be dwi'n ddeall ti angen bod yn 25/26 oed i rentio car yn America, dwi di disgwl tan bo fi ddigon hen i yfad yna, allai'm disgwl 5 mlynadd arall!


Nag wyt. Un ar hugain, fi'n credu. Nath fy ffrind rentu car i ni, ac mae hi'n ddwy ar hugain.


Ma'r rhan fwya o gwmnia yn mynnu bo chdi'n 25. Yr unig un dwi wedi ffendio sy'n cynnig i bobl rhwng 21 a 25 ydi RentaWreck.com!