Dych chi rioed 'di cal siwrne dacsi a sgwrs anarferol efo'r dyn tacsi? Neu jyst sgwrs od!
Echnos, ges i dacsi a mi fyddai weithie yn trio cynnal sgwrs, mwy na "Bisi twnait, ies?" Wel, na, mae hi yn dibynnu ar yr hwylie. Be bynnag, nath y dyn tacsi ddechre deud wrtha i bod o'n gorfod mynd i Tecso i brynu sirial i'w ferch. "O reit," meddwl inne. Ath o 'mlaen bod hi'n newid ei meddwl o hyd - un diwrnod mae'n licio coco pops, munud nesa yn licio shredis. Eniwe, ofynnes i faint oed oedd hi, yn meddwl mai merch fach oedd hi, ac mi atebodd o 15!! Wedyn de, nath o egluro mai'r unig amser o'dd o'n gal efo'i wraig oedd yn y bath a pa mor bwysig oedd hyn.
"It's nice see, 'coz you can look at each other innit." Myn ffwc i, ges i ormod o fanylion.
Thanciw, cip ddy chej! Bai naw. Bai bai.