Sgyrsiau Dynion Tacsis

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sgyrsiau Dynion Tacsis

Postiogan Beti » Mer 16 Chw 2005 5:05 pm

Dych chi rioed 'di cal siwrne dacsi a sgwrs anarferol efo'r dyn tacsi? Neu jyst sgwrs od!
Echnos, ges i dacsi a mi fyddai weithie yn trio cynnal sgwrs, mwy na "Bisi twnait, ies?" Wel, na, mae hi yn dibynnu ar yr hwylie. Be bynnag, nath y dyn tacsi ddechre deud wrtha i bod o'n gorfod mynd i Tecso i brynu sirial i'w ferch. "O reit," meddwl inne. Ath o 'mlaen bod hi'n newid ei meddwl o hyd - un diwrnod mae'n licio coco pops, munud nesa yn licio shredis. Eniwe, ofynnes i faint oed oedd hi, yn meddwl mai merch fach oedd hi, ac mi atebodd o 15!! Wedyn de, nath o egluro mai'r unig amser o'dd o'n gal efo'i wraig oedd yn y bath a pa mor bwysig oedd hyn.
"It's nice see, 'coz you can look at each other innit." Myn ffwc i, ges i ormod o fanylion.
Thanciw, cip ddy chej! Bai naw. Bai bai.
Beti
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 706
Ymunwyd: Iau 20 Ion 2005 12:47 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Owain » Mer 16 Chw 2005 5:11 pm

Y sgwrs orau dwi di cael efo boi tacsi odd tra o'n i yn Milan yn watcho Cymru'n chwara ffwti - odd o mond yn siarad chydig bach o Saesneg a finnau'n siarad chydig bach o Eidaleg ond rhywsut natho ni lwyddo i roi'r byd yn ei le yn golew.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1895
Ymunwyd: Iau 14 Awst 2003 2:25 pm
Lleoliad: Aberystwyth neu Bont

Postiogan joni » Mer 16 Chw 2005 5:25 pm

Y 'sgwrs' orau ges i erioed oedd y gyrrwr tacsi yn Baku nath mynd a ni nol i'r gwesty ar ol gem dan-21. Wel, dim cweit sgwrs oedd e. Nath y siwrne 5-10 munud fflio heibio wrth iddo wneud swn dreifio wrth iddo, wel dreifio. Rhywbeth fel y 'Crazy Frog' ond llawer llawer mwy doniol. A lot mwy o ganu corn.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Groovy » Mer 16 Chw 2005 6:05 pm

Gen i atgofion braf iawn o daith yn nhacsi Jerry yn Nulyn.

Bigodd e fi a'n ffrind lan yn ffwcd un bore ar ol bod yn yfed drwy'r nos mewn rhyw far stryd gefn doji yn rwle. Odden ni'n hwyr i ddal fferi, angen croesi'r ddinas adeg rush-hour bore llun, ac angen sdopio yn yr hostel i bigo'n bagiau lan ar y ffordd, wedyn sdopio mewn twll yn wal, wedyn sdopio am ddiod o ddwr etc.

Nath e fwynhau dweud wrthan ni am yr holl enwogion odd di bod yng nghefn ei gar - "yer man The Edge" a "that woman out of Catatonia, she was some larry"!

Nathon ni neud iddo fe chwerthin gymaint, nath e anghofio am y fare 50 Ewro a rhoi'i rif ffon adre i ni gael mynd i aros efo fe a'i wraig unryw amser da ni ishe.
:D Aaaaaaaa....
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Groovy
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 298
Ymunwyd: Iau 11 Rhag 2003 1:54 pm
Lleoliad: Pen yn y gwynt a thraed ar y llawr

Postiogan Selador » Mer 16 Chw 2005 7:15 pm

Mi geshi a'n ffrindia y trip tacsi o uffern yn Nhgasnewydd. (Dwi'n meddwl mai Casnewydd oedd o, fanno odd Steddfod ddwytha ia?!).
Odd y daith wedi dechra reit shaky. Roedd rhaid inni lwytho ein sdwff (amps a ballu) yng Nghefn y Tacsi, a gan bod y lon yn gul golygai hyn bod ceir erill methu pasio. Dyma riw foi'n dod allan o'i gar a dechra gweiddi abiws ar y dreifar tacsi, "Fuck off you bastard, Iv'e got to go home. I wanna see my girlfriend." Natho rioed esbonio ei hyn. Nath y dreifar taxi actio'n hollol cwl am y peth a anwybyddu'r boi, ond pan nath y nyttar yn y car ddechra cerad ata ni yn edrach yn beryg, mi neshi neidio mewn i set gefn y taxi efo'n amp ar y nglin.
Wedi i'r daith ddechra, dyma'r dreifar yn dechra gneud jocs a ballu, reit ddigri deud y gwir, a dyma fo'n y ngalw i'n "Pee-wee" am fy modi "ofn" :? .
Eniwe, ath y boi allan o reolaeth a rhoid abiws imi am chwartar awr gyfa, yn yng ngalw i'n wancar a twat ac yn y blaen. Oddo'n ofnadwy. Oddo fel bwli o'r ysgol.Erbyn diwadd oni yn gynddeiriog, a swni fwy dewr mi faswn i wedi hamro fo. (Gofynwch i Sioni Size, Ramirez neu Kamikazi os dachim yn coelio!).
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan finch* » Iau 17 Chw 2005 12:05 pm

Ges i a'n ffrindie dodgy taxi driver yn Gasnewydd fyd. Hen foi oedd e yn gyrru MPV ac aeth e ac 8 ohonon ni y 5 milltir mewn i'r dre o Maes B. Fyse chi'n disgwyl mai cwpwl o bumnnoedd yr un fyse fe.......total o £15 ar y mwya ie?..........£30 nath e chargo ni. Wel we wern't having that, so nathon no esbonio iddo fe gyda mathemateg sylfaenol pa mor ffycin rong oedd e a cal hanner 'nol. Wedyn natho ni reporto fe a gath e'i banio. Getho ni ddau daxi nol o'r dre'n hwyrach am tua £6 y car.

Dwi'n credu gath rhywun arall ei conio hefyd. Twat.
Jeff Tarango - There must be two, three thousand people here!
Michael Stich - Well is it two or three?
Rhithffurf defnyddiwr
finch*
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2090
Ymunwyd: Gwe 03 Medi 2004 12:38 pm
Lleoliad: Yn cuddio

Postiogan Geraint » Iau 17 Chw 2005 12:13 pm

Ges i reid diddorol da'r boi aisiaidd ma yng Nghaedydd. Dyma ni yn pasio tacsi arall, a mae'n canu ei gorn a gwaeddi ar y car. Dyma fo'n esbonio fod y tacsi wedi dod o'r cymoedd i wneud busnes yn y ddinas. Dyma fo'n dweud fod e a gyrrwyr tacsi erill yng Nghaerdydd weithie yn cael gafael o'r tacsi-wyr y cymoedd, ac yn rhoi cweir iddynt!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 17 Chw 2005 12:22 pm

Cofio cael tacsi nol o Gasnewydd i Bontllanfraith unwaith (tua pymtheg milltir am £15, Finch), ac yn gweud wrth y gyrrwr tacsi 'mod i newydd weld tua pump boi yn rhoi crasfa i un boi. Dyma fe'n cytuno bod hynny'n ofnadwy ac na ddylai grwp o bobl ymosod ar un person yn y fath ffordd.

Wedyn, wrth siarad 'da fe, a gofyn os oedd e'n cael unrhyw drafferth gyda'r nos, dyma fe'n gweud... "No, I don't gets that much trouble, but there's always the other drivers lookin' out for ewe, like. Last week, I 'ad one guy in 'ere, started threatening me. Well, I calls up the other drivers on the radio, don't I? Within five minutes, my car's surrounded by five taxis. Gave 'im a right good kickin', we did..."

:ofn:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Iesu Nicky Grist » Iau 17 Chw 2005 2:51 pm

Ges i a'n ffrind dacsi'n Aberystwyth gyda'r boi 'ma o'dd 'n ffrind i'n 'nabod, ac ar ol 'shwmai ers lawer dydd', dyma'n ffrind yn gofyn iddo fe am newyddion -
"I got one of those Thai wives"
"Sorry, what?"
"I gotta Thai wife"
"Has she got a name?"
"Yeah, it's foreign..." :ofn:

Dreifo fel nutter 'fyd.

Anyway, ges i dacsi yng Nghaerfyrddin yn ddiweddar ar noson stormus, a jwmpo mewn i'r ffrynt ar hast, a dim really edrych ar y tacsi driver odd yn amlwg yn hiwj (ma nhw fel arfer, wel, yn Town). Be bynnag, ma fi'n tynnu'r hen ffefrynne mas o'r bag, "busy night drive/boss/gov?" etc. a gan bo fi heb ga'l lot o ymateb ar ol 3/4 o nhw (o'dd variety 'fyd!), ma fi'n meddwl am y chat mwya universal da tacsi driver - men'wod -
"Birds out tonight 'en?"
"What?"
"Any pretty girls out tonight?"
Ces i'm ateb 'fyd. Ac wrth dalu, a'r car yn dod i stop, a'r gole tu mewn yn dod 'mla'n, dyma fi'n sylwi taw menyw hiwj o'dd yn dreifo. FFAC. Mind you, fi di gweld hi wedi 'ny, a ffac, ma'n job dweud naill ffor...
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Cwlcymro » Iau 17 Chw 2005 3:14 pm

Sgwrs ddiddorol efo dreifiwr yn Milan.

"Do you like football?"
Lot o Eidaleg
"Milan?"
Lot o regi Eidaleg
"Inter?"
Gwen

Y profiad gora mewn tacsi ddo oedd o stesion Caerdydd i'n nhy i. Wrth fynd ar Heol Santes Fair (oedd yn uffernol o brysur)

Fi: "Lots of traffic tonight isn't there"
Fo: "I'll soon sort that out"

Dyma fo'n fflipio switch bach a dyma na seiran heddlu yn atseinio dros y stryd. Mi symudodd y ffyliad o'n ffordd ni hefyd!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron