Ar hyn o bryd, dwi wrthi yn trefnu trip i griw ohonon ni fynd i Werddon i jolihoetan. Tua tair blynedd o rwan fydd y trip, achos dwi'n bymtheg dydd llun (visa, switsh neu fastyrcard neith yn iawn) ac angen meddwl am fy nhrip deunaw. A lle gwell i fynd na Werddon? Guinness, harddwch, tafarndai, rygbi, hanes, Gwyddelod, Dulyn...dwi'n gweld y lle fel rhyw Ynys Afallon!
Felly, rhannwch eich profiadau am dripiau gwyllt i Werddon yn fama! Beth i'w wneud? Sut i'w wneud o? Beth i'w osgoi? A sut mae arbed cyn gymaint â phosib o arian??