Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Iau 24 Maw 2005 12:57 pm
gan Ramirez
Mihangel Macintosh a ddywedodd:ma na lefydd gyda Gerddi Cwrw lle eli di fwynhau ffag neu sbliff bach slei.


chwilia am y pyb Eamon D'orann (neu rywbeth tebyg iawn) o gwmpas Temple Bar yn rhywle dwi'n meddwl. Lle gret, agored yn hwyr, tua 3 llawr, bands byw yn y nos weithia, a gardd gwrw union fel yr uchod.

PostioPostiwyd: Llun 04 Ebr 2005 10:47 pm
gan Dai dom da
Nos sadwrn fe ddes i nol o Tralee a'r ol bod yn cystadlu yn yr wyl ban geltaidd - ac am y dref, ffycin awsome. 8) Peil o fars dros y strydoedd i gyd, lot o wahanol fathau fyd. Wedd gyda ti rhai tawel iawn, rhai reali chilled out a'r rhai llawn ble wedd pawb yn canu. Un o'r pethau mwya cwl am y tafarnau yw wedd gan pob un cymeriad unigryw, ac roedd hi'n neis dod mas o dafarn a dim un arogl mwg sigarets ar ein dillad. (dim offens i'r rhai ohonoch sy'n smygu gyda llaw) Yn yr Abbey Gate Hotel aroshom ni ynddo, lle gret gyda bar reali cartrefol a fan hyn we ni'n treilio rhan fwyaf o'r nosweithi. Wedd digon o stwff i neud gerllaw fyd, aqua dome, cwrs golff a wedd na trac go cartio o fewn awr - wedd y lle hyn yn awsome.

So ie, bydde ni'n deffo awgrymu Tralee ond yr unig snag yw fod y lle ochr draw iwerddon ac wedd hi'n 4-5 awr o ddreif o rosslare. Ond os bydde chi'n hedfan bydd y maes awyr dim ond awr wrth y dre ei hun.