Tudalen 1 o 2

Iwerddon

PostioPostiwyd: Sul 13 Maw 2005 10:12 am
gan Treforian

PostioPostiwyd: Sul 13 Maw 2005 1:14 pm
gan Norman
Mi o ni'n Dulyn union flwyddyn nol - lle gwych i'w weld, ond blydi oer a drud, os ti ar buget go iawn wrach fod rhywle fel Galway yn well ?

PostioPostiwyd: Sul 13 Maw 2005 1:28 pm
gan Treforian

PostioPostiwyd: Sul 13 Maw 2005 3:09 pm
gan Dai dom da
Dwi wedi bod i Iwerddon cwpwl o weithie nawr gyda teulu a teithiau'r urdd. Lle cynta bues i ynddo oedd Killarney - pentref/tref bach yng nghanol y wlad, lle neis iawn, ond dim lot i neud. Ail lle oedd Youghal. Roedd hwn yn lle gret, digon o stwff i neud ac ar bwys y mor - golff, snwcer, arcade, bowling alley - a lot o llefydd agos i ymweld ag. Dwi di bod yn Nulyn unwaith, ddim rhy keen ar y lle ma i fod yn onest - wedd e bach yn rwff. Ond digon o bethe i gwneud a weld. Trefi arall dwi di bod ynddo yw Cork, Wexford a Waterford. Ond dim ond pasio drwyddo neu ymweld yn gloi wedd rhein.

Felly dwi'n awgrymu trip i Iwerddon yn gryf iawn, wel dwi enjoio pob tro dwy di bod hyd yn hyn beth bynnag. 8)

PostioPostiwyd: Maw 15 Maw 2005 1:54 pm
gan hagfan
Kilkenny yn le arbennig am sesh! Tralee yn eitha dda, Killarney llawn tafarnau chwarae cerddoriaeth byw, Wexford yn weddol, ond hwylus oherwydd mae'n agos Rosslaire.

Bod yn Nulyn sawl gwaith, ddrud iawn nawr, soi'n credu a'i nol am sbel.

PostioPostiwyd: Maw 15 Maw 2005 3:45 pm
gan Cardi Bach

PostioPostiwyd: Maw 15 Maw 2005 4:05 pm
gan Beti

PostioPostiwyd: Maw 15 Maw 2005 5:41 pm
gan Mihangel Macintosh
Dwi'n eitha licio Dulyn Cardi.

Dwmbod, falle fi sy'n licio mynd am city breaks - dwli ar Prague, Barcalona, Dulyn ayb. Odi, ma fe'n lle drud, ond ma Iwerddon yn le drud. Be fi'n licio am Dulyn yw fod e'n ddinas mawr prysur ddim yn anhebyg i Lundain, ond fod e'n le mor ifanc! Wrth ifanc, dwi'n golygu o rhan poblogaeth, ma'r lle yn llawn o bobl ifanc.

Treforian - os wy ti'n mynd draw i ddilyn, ma na hostels rhad am tua 60 Euro am bythefnos a ma rhiad mynd i Temple Bar (Camden Town Dulyn) Y peth mwyaf bizaree am Iwerddon ydi dim smygu mewn tafarndai na hyd yn oed clybiau nos, ond ma na lefydd gyda Gerddi Cwrw lle eli di fwynhau ffag neu sbliff bach slei.

PostioPostiwyd: Maw 15 Maw 2005 11:30 pm
gan Dai dom da

Iwerddon

PostioPostiwyd: Iau 24 Maw 2005 6:20 am
gan Elsan