Prynhawn da,
Dwi'n chwarae gyda'r syniad o fynd dramor dros yr haf i weithio. Gan mod i mor blydi sgint, bydd rhaid gweithio am arian yn hytrach na gwaith gwirfoddol. Dwishe mynd i Ewrop rhywle, mor rhad a phosib, ac o bosib, ddim yn llawn o Brydeinwyr (ond eto i gyd, dwi ddim yn siarad iaith arall yn rhugl. Heblaw bach o Ffrangeg. Problem?!). Gofyn gormod falle?!
Dwi ddim cweit yn siwr sut i fynd ati i ffindo job, felly ishe gwbod os oes rhywun yma wedi gwneud yr un fath o beth o'r blaen ac ishe rhannu eich profiadau?!
Petai gen i arian, bydden i'n mynd i rhywle a wedyn edrych am job, ond dwi rhy sgint i gamblo. Profiad dwi ishe mwy 'na dim, a cyfle i brofi bach o ddiwylliant gwahanol - ond yn anffodus rhaid meddwl am yr arian !
Diolch!