Tudalen 1 o 1

De America

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 12:33 pm
gan Wilfred
Dwi'n gobeithio mynd i De America cyn diwedd y flwyddyn am rhyw fis. Unrhyw awgrymiadau am lefydd dylswn i fynd i ymweld? Tips am drafeilio yn rhad yno? Wel unrhyw beth i ddeud y gwir.
Diolch

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 12:52 pm
gan eusebio
Buenos Aires

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 2:56 pm
gan Mali
Os fuaswn i'n meddwl am daith i Dde America, mi fasa Patagonia yn bendant ar fy rhestr ....Gaiman, Trelew a Phorth Madryn.
Mali

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 3:26 pm
gan Norman
Ma Llyn Titicaca yn swnio'n dda, ar ffin Peru / Bolivia
Delwedd

Hanes rhyw foi yn crwydro'r ddwy wlad yma

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 3:42 pm
gan Aranwr
Bu 'nhad i'n gweitho yn Paraguay am 2 flynedd! Gath e amser da - pobl gyfeillgar ac y.y.b. Dysgu Sysneg o'dd Dad mas 'na ond ma' fe'n meddwl bod rili ishe gwbod itha lot o sbaeneg cyn mentro allan 'na i fyw er ti'n pigo lan itha lot pryd ti 'na. Ma' lot o straeon 'da fe am fywyd gwyllt diddorol fyd ac yn ty ma da ni neidr mewn jar nath ffrind i nhad ddal a'i biclo! 8)

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 3:43 pm
gan Mr Groovy
Treulies i bach o amser yn Ne America llynedd. Dyma rai o'n uchafbwyntiau i -

Peru - Cusco a'r Inca trail lan i Machu Picchu. Ma'n werth yr ymdrech o gerdded am 3-4 diwrnod, ond os ti am fentro'r treck, tria gael cwpl o ddyddie yn Cusco i ddod i arfer â'r uchder gynta.
Ma Machu Picchu yn le ANHYGOEL, ond elli di ddal bys neu dren lan na os ti'n teimlo'n ddiog. (neu'n gall falle?)
Cusco'n lle da i ymlacio ar ôl y trecio - lot o fariau a llefydd bwyta da ac yn ddinas GYMAINT brafiach na Lima, sy'n llwyd, budr a braidd yn sgymi.

Nes i fwynhau ymweld â chwpl o ynysoedd ar lyn Titicaca fyd. neis iawn.

Ecuador - ges i wythnos anhygoel yn hwylio o gwmpas ynysoedd y Galapagos, deifio efo siarcs a morloi a dweud "waw" lot fawr. Spoilt!

Brasil - RIO :D Rhaid mynd i stadiwm y Maracana, es i i ffeinal y Copa do Brasil, gwych.
Partis sili drwy'r nos a traeth Ipanema drwy'r dydd. Cofia gael pînafal gan y nytar sy'n gwerthu nhw ar y traeth.

Lot o bobl yn dweud fod yr Iguasu Falls yn werth eu gweld os ti yn y parthau.

Redes i mas o amser wedyn :crio:

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 4:40 pm
gan Chwadan
Patagonia wrth gwrs! Er, swn i'n mynd nol i Fuenos Aires ar hast hefyd. Lyfli shmyfli.

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 5:31 pm
gan Meic P
Mr Groovy a ddywedodd:Brasil - RIO :D Rhaid mynd i stadiwm y Maracana, es i i ffeinal y Copa do Brasil, gwych.
Partis sili drwy'r nos a traeth Ipanema drwy'r dydd. Cofia gael pînafal gan y nytar sy'n gwerthu nhw ar y traeth.


Wedi bod i Rio ddwywaith. Anhygoel. Fanno tisho mynd

Oni yno unwaith adeg Cwpan y Byd '94 - mental!

PostioPostiwyd: Maw 19 Ebr 2005 10:03 pm
gan Leusa
Fues i'n Mhatagonia hefyd, athon ni am dro mewn cwch i'r llynoedd ganol y mynyddoedd enfawr 'ma efo coedwigoedd gwyrdd enfawr bob ochor, a condors yn fflio uwchben, odd o'n anhygoel. Sa ti'n gallu croesi'r paith wedyn ar gefn ceffyl (hehehe!) i'r Gogledd lle mae'r bobol fwya croesawgar yn y byd yn byw :winc: