Treulies i bach o amser yn Ne America llynedd. Dyma rai o'n uchafbwyntiau i -
Peru - Cusco a'r Inca trail lan i Machu Picchu. Ma'n werth yr ymdrech o gerdded am 3-4 diwrnod, ond os ti am fentro'r treck, tria gael cwpl o ddyddie yn Cusco i ddod i arfer â'r uchder gynta.
Ma Machu Picchu yn le ANHYGOEL, ond elli di ddal bys neu dren lan na os ti'n teimlo'n ddiog. (neu'n gall falle?)
Cusco'n lle da i ymlacio ar ôl y trecio - lot o fariau a llefydd bwyta da ac yn ddinas GYMAINT brafiach na Lima, sy'n llwyd, budr a braidd yn sgymi.
Nes i fwynhau ymweld â chwpl o ynysoedd ar lyn Titicaca fyd. neis iawn.
Ecuador - ges i wythnos anhygoel yn hwylio o gwmpas ynysoedd y Galapagos, deifio efo siarcs a morloi a dweud "waw" lot fawr. Spoilt!
Brasil -
RIO Rhaid mynd i stadiwm y Maracana, es i i ffeinal y Copa do Brasil, gwych.
Partis sili drwy'r nos a traeth Ipanema drwy'r dydd. Cofia gael pînafal gan y nytar sy'n gwerthu nhw ar y traeth.
Lot o bobl yn dweud fod yr Iguasu Falls yn werth eu gweld os ti yn y parthau.
Redes i mas o amser wedyn