Tudalen 1 o 1

Holideiz Ffinc 2005 - Califfornia! IEI!

PostioPostiwyd: Gwe 06 Mai 2005 11:13 pm
gan Ffinc Ffloyd
Wedi bwcio'r tocynna heddiw - Virgin Atlantic Heathrow - LAX ar y 17ed o Fehefin, fi a dau ffrind o adra. Mynd yn syth i gampio i Yosemite am bedwar diwrnod (BENDANT yn mynd i ben El Capitan), wedyn i fyny i San Francisco am tua'r un faint, cyn dychwelyd i LA via Santa Barbara am weddill yr ail wsnos. Dod adra ar y 6ed o Orffennaf ('mhen-blwydd i) yn jetlagged tw ffyc, mae'n debyg.

Dwi yn ecseitio'n rhacs. Ac i neud petha'n well fyth, dwi'n cael camera digidol gen y parentals ar 'y mhen-blwydd yn gynnar, felly mi ga i lunia hefyd.

Trip unwaith-mewn-bywyd, ddudwn i. :D :D :D

PostioPostiwyd: Mer 11 Mai 2005 6:36 pm
gan Chwadan
Lle ma'r blog ma ti di addo am y daith? Ydi o dal ar y gweill?

PostioPostiwyd: Iau 12 Mai 2005 9:29 am
gan Cwlcymro
20fed o Fehefin i fi, Air Canada Manceinio - Toronto - La Guardia (New York). Noson yn yr Afal mawr yna hedfan i Denver, Colorado. 5 diwrnod efo teulu sy'n byw yno wedyn 15 diwrnod yn neidio o Greyhound i Greyhound trw Kansas, Missouri, Illinois, Indiana, Ohio, Pennsylvania a nol i New York. 5 diwrnod arall yn y ddinas sydd byth yn cysgu, ella day trip bach i Washington i regi o flaen y Ty Gwyn, ag nol i Gymru fach :lol: (Cyrradd adra 10am ar 15 o Orffenhaf, cysgu am rhyw 4 awr, wedyn off i weld y Furries yn Sesiwn Fawr) :lol: :lol: