Bethesda - y Felinheli newydd?

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bethesda - y Felinheli newydd?

Postiogan Dewyrth Jo » Llun 16 Mai 2005 9:59 am

Ers amser bellach Felinheli sydd wedi dwyn y teitl "Canton y Gogledd". Y lle trendi i gael eich gweld yng nghyffuniau Bangor/Caernarfon ond a oes bygythiad i'r statws hwn fel 'kool kapital' y gogledd? Mor anhebyg ac mae'n ymddangos, mae'r bygythiad hwn yn dod o gyfeiriad un o drefi'r garreg las. Mae'r rhai ohonoch sy'n ymddiddori mewn ffasiwn yn gwybod mae du yw'r du newydd, ond ydi hi ryn mor wir i ddweud mai Bethesda yw'r Felinheli newydd yn y kool stakes?
Dewyrth Jo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 290
Ymunwyd: Iau 15 Gor 2004 10:11 am

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 16 Mai 2005 10:46 am

:D

Iawn, dw i'm am neud y tric arferol o mynd on am faint o cwl 'di Pesda achos mae fy nhuedd i'n gorbwyso unrhyw feddwl realistig neu ymarferol. Ond dw i byth, byth yn medru dallt pan fo Felinheli yn cael ei ystyried yn 'kool stakes'. Mae Felin erioed wedi bod yn bor-ing (a rhydd i unrhywun o Felinheli dweud 'run peth am Pesda, dwimisho pechu neb :) ).

Dw i'n dueddol o feddwl bo Pesda 'di bod yn eitha isel ers yr 80au, mwy neu lai, a bod llefydd fel Blaenau a Port (ac i raddau, Llanrwst) wedi mynd o'i flaen. Ond mae 'na wbath ffresh am Pesda dyddia hyn, ac nid kebab Rashid dw i'n son amdano (yn sicr ddim kebab Rashid...)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Analeiddiwr » Llun 16 Mai 2005 11:05 am

Bethel di'r lle i gael dy weld yn yr ardal yna. Sa'm byd yn elyfetio dy 'koolness' di mwy na cal dy weld yn chwara gem o snwcs yn YM. Ne pasho Bedol ond ddim mynd mewn (chos ma'n wancar o pyb).

Gei di'm lle mwy cool na Bethel.
Rhithffurf defnyddiwr
Analeiddiwr
Cerdyn Coch
Cerdyn Coch
 
Negeseuon: 362
Ymunwyd: Mer 26 Ion 2005 12:23 pm
Lleoliad: Y Broncs, Aberystwyth.

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 16 Mai 2005 11:09 am

Hehe, yn wir, does dim yn curo cael dy weld yn pasio drwy Bethel (ond heb stopio a mwy na thebyg ar dy ffordd i Gnarfon...!)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Geraint » Llun 16 Mai 2005 11:18 am

Oes na far trendi yn gwerthu Hoegaarden ym Methesda?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwyn T Paith » Llun 16 Mai 2005 11:20 am

oes - y douglas arms
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Llun 16 Mai 2005 11:36 am

Does na'm bariau trendi ym Methesda.

Wel. Mae'n dibynnu be ydi dy ddiffiniad o cwl. Does 'na'm winebars - rho hi felly. I fi mae y Douglas sy'n prisio eu cwrw yn ôl sylltau yn eithaf cwl. Mae holl deimlad y lle yna jesd yn hollol bisâr - y dyn tu ôl i'r bar (Cymro Cymraeg o Dori sy'n well ganddo siarad Saesneg) yn hollol sych a digroeso, y seddi fatha meinciau capel, y lle yn oer a llwm a ti jest yn gallu teimlo bod 'na ysbrydion yn isda yna yn yfed o dy gwmpas di. Dwi'm yn siwr a ydw i'n iawn yn fama, ond mae gen i rhyw deimlad mai hon oedd tafarn y 'bradwyr' adeg streic y penrhyn (dwi'n deud hyn oherwydd enw'r dafarn, ac oherwydd natur y boi wrth y bar) - mi fasa nghyndeidiau'n troi yn eu beddau.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 16 Mai 2005 11:38 am

Does dim llai trendi na bar trendi. Hen dafarn fudur a'i llaithwaliau sydd eisiau. Teledu bach yn y gongl top sy unai ffwrdd neu'n dangos gem o bel-droed neu rygbi. Cadeiriau pren, hen ffashiwn a byrddau bychain crwn efo biarmats sydd wedi gweld dyddiau gwell. Gofyn i wyneb cyfarwydd tu-ol y bar am beint, yn Gymraeg, hefyd. Dim byd rhy ffrisgi, jyst yr iwsiwal, i'w yfed tan hwyr y nos. Ambell i lun o amgylch y wal o'r chwarel neu'r stryd fawr, efo criw o hen ddynion efo'u chwerw'n meddwi a'r ifanc ar y seidr neu lagyr yn griwiau tan ddiwedd nos pan mae pawb yn siarad efo'u gilydd ac yn cyfarfod pobl newydd a chyfeillion hen; cofio'r gorffenol efo gwen ac edrych i'r dyfodol yn obeithiol-sinicaidd gan chwerthin. Dim cerddoriaeth yn ystod y dydd, ond gem o pŵl, a dim ond ychydig o fiwsig yn y cefndir pan ddaw'r nos, os bosib. Bryn Fon, DI a Celt (yn bennaf) ar y jiwcbocs yn canu i bleser pawb sydd yno. A wedyn, ella mynd i clwb rygbi am y gig diweddara neu aros a chael loc-in, efo rhyw ddeg o bobl (yn ystod yr wythnos) neu phum deg (nos Sul), tan ddau yn y bora'n yfad yn ddistaw cyn mynd tu-allan i Spar i ista'n gachu bants am bach. Cerdded adra dan y lleuad efo amlinelliad y mynyddoedd yna'n llonyddu, a thithau ddim yn dy gartref tan bedwar, yn anfodlon bod diwedd nos yn dyfod. Felly'n gwneud yr un peth y diwrnod wedyn.

Dyna 'di Pesda :)
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cwlcymro » Llun 16 Mai 2005 11:43 am

Cofio pisho yn toiled un o dafarna Pesda. Rhyw foi cerddad mewn a deud "Argol s'mai Guto" (sef yn enw i bai ddy we)
Mi droish i rownd a doni erioed wedi gweld y dyn o'r blaen.

"O ma'n ddrwg geni met" medda fo "Oni'n meddwl ma Guto odda chdi"

Dwi dal yn conffiwsd
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 16 Mai 2005 11:55 am

A dweud y gwir, ti'n edrych 'mbach fel boi o Besda o enw Guto. Ond o'r tu-ol, ella. Ella na fo oeddo'n feddwl. Yn enwedig os oeddat ti'n Ty Isaf.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai

cron