Hogyn o Rachub a ddywedodd:A dweud y gwir, ti'n edrych 'mbach fel boi o Besda o enw Guto. Ond o'r tu-ol, ella. Ella na fo oeddo'n feddwl. Yn enwedig os oeddat ti'n Ty Isaf.
Mae dy blwyfoldeb yn chwedlonol, Hogyn!
Ond â dychwelyd at bwnc gwreiddiol yr edefyn yma, rydw inna wedi sylwi bod Bethesda'n dechrau mynd yn gyrchfan i Gymry ifanc o ardaloedd eraill hefyd. Pan es i fyw yna am gyfnod y llynedd, roedd y Bethesda a welais i bryd hynny'n wahanol i'r un dwi'n ei gofio o nghyfnod yn yr ysgol uwchradd yn y 90au. Er, na fues i erioed yn byw yn Bethesda ei hun yr adeg hynny...
Wn i ddim beth sydd wrth wraidd hyn... Pesda Roc 2003? Agor Neuadd yr Hendre? Ynteu ffactorau negyddol am drefi/pentrefi eraill yn yr ardal?