Bodio

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bodio

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 27 Mai 2005 10:31 am

Erthygl ddiddorol iawn am fodio, sydd wedi gwneud mi feddwl.

Oes na rywyn ar y maes erioed wedi bodio neu yn rhoi lifft i fodiwrs? Beth oedd eich profiadau? Os da chi ddim yn un sy'n stopio i fodiwrs, yna pam?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Bodio

Postiogan pads » Gwe 27 Mai 2005 10:52 am

Mr Gasyth a ddywedodd:Oes na rywyn ar y maes erioed wedi bodio neu yn rhoi lifft i fodiwrs? Beth oedd eich profiadau?


Dyna shwd rwy'n gwybod am faes-e - wnes i roi lifft i Nic oedd yn stigo ei fawd mas yn Llanymynech.
Rhithffurf defnyddiwr
pads
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 249
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 9:22 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 27 Mai 2005 11:01 am

Gan nad ydw i'n gyrru, a chan fod system drafnidiaeth gyhoeddus cefn gwlad Cymru mor echrydus, mae ffawd heglu yn amal yn orfodaeth.

Nesh i fodio o Ddolgellau i sdeddfod Llandeilo, oedd yn daith ddifyr iawn deud gwir. Ges i lifft gan ddau berson gwahanol ro'n i'n nabod. Bownd o ddigwydd ar y ffordd lawr i'r sdeddfod tydi!

Un arall mwy diweddar oedd bodio o Aber i Ddolgellau jest cyn dolig. Gesh i ddwy lifft aeth a fi at Bow Street wedyn dim byd am awr yn y glaw, yna, lifft fach gan hipi mewn Merc (efo set gefn wlyb - ach) i Dalybont. Yn fan'na wedyn am hannar awr a finna angen cyrraedd nol i Ddolgellau ar gyfer poryd o fwyd am 3 yn y Dylanwad Da. Lwcus i fi ddoth, boi oedd y nysgol efo fi heibio yn ei transit ar ol bod yn siopa dolig a rhoi lift yr holl ffor' nol. Ac mewn pryd i ginio!

Rhaid cyfadda dwi'n joio bodio, ma rhoi dy hun i ffawd yn beth braf iawn. Ti'n teimlo'n reit rhydd ac yn gael digon o amser i bendroni, a phan gei di lifft ti'n cael sgyrsio efo pobol difyr ofnadwy na faset ti falla'n cychwyn sgwrs a nhw fe arall. Ew, ma'n codi awydd gneud arnai...dwi'n fod i fynd i Lundain ar y tren fory...ella driai'n lwc :winc:
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan joni » Gwe 27 Mai 2005 11:17 am

Dwi byth wedi bodio, ond dwi wedi rhio lifft i un fodiwr yn fy mywyd o Bow Street i Aberystwyth. Ffac, o'dd e'n drewi - ond boi digon dymunol chware teg. Sdim byd yn erbyn pigo lan bodwyr genna i, dwi jyst ddim yn gweld llawer o nhw o gwmpas diwrnode ma.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 27 Mai 2005 1:08 pm

I fynd nol at Doris o Corris eto, ella fod hi di dychryn pawb yn y Gog rhag codi unrhyw basinjars byth eto.

Lle di'r pella ma unrhyw un wedi bodio mewn diwrnod ta?

Be oedd eich diwrnod bodio mwya llwyddiannus?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Gwyn T Paith » Gwe 27 Mai 2005 1:31 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:
Lle di'r pella ma unrhyw un wedi bodio mewn diwrnod ta?


Es i a rhywun yr holl ffordd fyny i'r nefoedd ac yn ôl unwaith - wel dyna ddudodd hi wrthai de :lol: :winc:
"Meddwl yn ddwys am ddim byd o bwys."
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyn T Paith
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Sul 28 Rhag 2003 3:46 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan pads » Gwe 27 Mai 2005 3:00 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Lle di'r pella ma unrhyw un wedi bodio mewn diwrnod ta?


Amsterdam i Berlin. 8)

Dechrau bodio am 8 y bore cyrraedd Berlin deg y nos. Oedd yr DDR (Dwyrain yr Almaen) yn dal i fodoli, so roedd pobl yn fwy fodlon i roi lifft trwy'r "transit corridor" i Berlin.

Ar y ffordd nol ces i lifft gan boi o'r Iseldiroedd oedd wedi bod o gwmpas Cymru ar ei fotobeic, ac oedd hyn yn oed wedi bod i eisteddfod.
Rhithffurf defnyddiwr
pads
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 249
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 9:22 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 27 Mai 2005 4:15 pm

Oce, nesh i'm rili bodio hyn felly ma'n cheatio braidd ond mai'n sdori...mi gesh i lifft o Windhoek, Namibia i Livingstone, Zambia mewn un go.

Efo rhyw nytar niwrotig o Americanwraig oedd yn sgwennu i'r Lonely Planet ar gyfer Namibia/Botswana/Zimbabwe. Ar hyd y tridia o daith roedd hi'n yfad cwrw hanner cryfder, gan daflu'r cans i gyd wrth ei thraed. Erbyn diwadd bob dydd oedd y llawr yn for o gania, a hitha di meddwi'n geiban.

Ar y ffordd mi gesh i aros yn nhy rhyw bobol oedd yn rhedag safari yn Botswana (a chael pryd mawr hyfryd), cysgu am ddim mewn hostel yn Kazangula (a deffro'n ganol nos wrth i gi anfarth oedd wedi snyglo fyny atai gychwyn bloeddio cyfarth fel cwn annwfn!), wedyn cael aros am ddim mewn hostel ar ynys ar y Zambezi oll am bo hi'n gweithio i'r LP! Werth pob eiliad o gachu brics yn y car, ond Iasu oedd isio mynadd efo'i de.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Mali » Gwe 27 Mai 2005 4:42 pm

Yr unig amser wnês i fodio oedd yn y coleg ....dim ond o dop Bangor i Borthaethwy , ac o Fangor i Fenllech :lol: . Dim car gen i adeg hynny ac yn teimlo'n reit saff efo grŵp o ffrindiau.
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan nicdafis » Sul 29 Mai 2005 3:46 pm

Newydd sôn am y lifft gorau dw i wedi cael yn diweddar ar <a href="http://golygongasyth.blogspot.com/2005/05/bodio.html#comments">flog y Gasyth</a> (os dw i'n cofio'n iawn, pads oedd wedi gadael fi yn Llangurig, felly diwrnod llwyddiannus iawn oedd hwnna).

Mae bodio yn ffordd wych o deithio, os nag oes hast arbennig arnat ti. Dw i'n synnu bod cynlleiad o bobl yn wneud e. Yn anaml iawn fyddwn i'n agor sgwrs gyda rhywun ar y tren, ond pan ti'n bodio ti'n dod i nabod person yn gyflym iawn.

Ydy pobl eraill yn defnyddio arwyddion? Dw i erioed wedi bod yn ffan. Os dw i'n bodio, yn amlwg ddigon, dw i moyn lifft sy'n mynd y <i>ffordd 'ma</i>.

Lle gwaetha i gael dy adael? I mi, ble mae'r M4 yn cwrdd â'r M5. Os ti'n mynd tua Chernyw, dyna sbot hunllefus. Ces i lifft gan heddwas o fan 'na unwaith, yr unig tro dw i wedi bod yn falch o weld car heddlu.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron