Bodio

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Ari Brenin Cymru » Sul 15 Ion 2006 5:27 pm

Odda nin cerddad o Lanfrothan i Penrhyn neithiwr, pan basiodd ryw gar ni. A nath o ddim sdopio. Ond tua 5 munud yn ddiweddarach daeth yn ol tuag atynt, gwneud 3 point turn a rhoi lifft i ni i Penrhyn!

Ar ol deall roedd y boi yn dod o Romania, ag roedd un or bois arall yn y car sef Ioan Gwil yn ei gofio fo ers iddo fod yn gweithio yn Tesco, roedd o wedi gofyn i Ioan yn Tesco os oedd na Greek Yogurt yn y siop!

Dyma ddeialog a ddigwyddodd yn y car.

Ioan Gwil:"Which country are you from?"

Dreifar:"Romania"

Ioan Gwil:"Are they in the world cup next year?"

Dreifar:"No idea, i'm not playing"

Euron Lard: "Oh, you'r on the bench are you?"

:D
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan blanced_oren » Sul 15 Ion 2006 7:20 pm

joni a ddywedodd:Dwi byth wedi bodio, ond dwi wedi rhio lifft i un fodiwr yn fy mywyd o Bow Street i Aberystwyth. Ffac, o'dd e'n drewi - ond boi digon dymunol chware teg. Sdim byd yn erbyn pigo lan bodwyr genna i, dwi jyst ddim yn gweld llawer o nhw o gwmpas diwrnode ma.


Dwi 'di roi liffts i ychydig o bobl yn y cefn gwlad. Ond nawr dwi'n tueddu peidio, achos y tro diwethaf fe roddais i lifft i foi o Lanfair Ym Muallt i Gaerdydd, ac ro'n i'n teimlo yn anesmwyth amdano. O'dd e'n actio'n dodgy.

Ond roedd y bobl eraill yn hollol di-drafferth. Un Cymro Cymraeg o Lantwymyn a dyn bach tew o Raeadr Gwy i Landrindod (roedd e'n drewi yn ofnadwy!)
blanced_oren
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 85
Ymunwyd: Iau 24 Chw 2005 6:21 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dewi Bins » Sul 15 Ion 2006 9:23 pm

Ari Brenin Cymru a ddywedodd:
Euron Lard: "Oh, you'r on the bench are you?"

:D


Euron y beanhead gwirion.

Dwi'n cofio un tro Pan aeth fi a 7 o ffrindiau i cwm Pennant i nofio. Aeth fi a 3 arall ar yn beics ond aeth y 4 arall gerdded. roedd ni 3 chwarter ffordd yna tra odd y pedwar arall wedi bodio i rhyw ddynes ma a dweud hyn.

"gewni lifft?"

"i lle dachi mynd"

"cwm Pennant"

" o lle dachi di dod o?"

"Blaenau Ffestiniog" (ond o Port odd nhwn dod o)

"o dachi di cerdded yn bell, dewch i mewn"

Ni ar yn beics wedi cyrraedd Cwm Pennant a jyst pan oeddan ni yn rhoi ein beics dros y giat fe ddoth y 4 mewn car , :drwg: roni yn gutted.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Bins
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 309
Ymunwyd: Iau 29 Rhag 2005 9:57 pm
Lleoliad: Porthmadog

Postiogan Twpsan » Sul 15 Ion 2006 11:03 pm

Ddaru`n ffrind i bigo bodiwr i fyny rownd Dinbych ac oedd o`n sal drwy`r ffenest. Ma hwn di rhoi fi off chwarae`r samariad fymryn! :?
Am nad iar ydw i, y jolpan wirion!
Rhithffurf defnyddiwr
Twpsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 203
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:30 pm
Lleoliad: Twpville

Postiogan Rhodri Nwdls » Llun 16 Ion 2006 2:01 pm

Gesh i lifft o Borth i Aber ddoe ar
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Ramirez » Llun 16 Ion 2006 3:05 pm

Dwi'n lecio'r syniad o fodio, ond heb wneud rhyw lawer. Ma'r storis ma di codi awydd arnai.

Steddfod Meifod, oni a'r drymar yn hwyr i soundcheck, felly bodio oedd fy hanes. Cal lifft gin rhyw hen ddyn digon hoffus, oedd wedi cael cael car newydd ("'Co, radio cassette a phopeth!") a hwnnw'n cofio 'nol am yr hen steddfodau a be oddani am neud yn steddfod yma ("Yfed a mercheta siwr o fod ei?!") wedyn ein rhybuddio ni'n iawn am beidio yfed a gyrru (yn amlwg ddim yn broblem, neu fasani ddim yn bodio yn y lle cynta nasan y lembo)

Colli bys o Botwnnog i Coleg Pwllheli unwaith fyd, geshi lifft gan rhyw ddynes.

Neshi drio bodio o Carmel i Glynnog hefyd, ond nathna run ffycin diawl o neb nghodi fi ar lon fawr (oni di cal lifft at lon fawr gan Methu Meddwl). Cerddad fu'n hanas i, tua 5 ne 6 milltir mewn haul crasboeth heb ddiferyn o ddwr. Cyrraedd y Beuno yn Clynnog, 5 peint o lager oer a mi odd y mhen i'n troi. Am Fic Llithfaen wedyn, a meddwi'n gocls.

Ffyn.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Sili » Llun 16 Ion 2006 3:16 pm

Ramirez a ddywedodd:Neshi drio bodio o Carmel i Glynnog hefyd, ond nathna run ffycin diawl o neb nghodi fi ar lon fawr (oni di cal lifft at lon fawr gan Methu Meddwl). Cerddad fu'n hanas i, tua 5 ne 6 milltir mewn haul crasboeth heb ddiferyn o ddwr. Cyrraedd y Beuno yn Clynnog, 5 peint o lager oer a mi odd y mhen i'n troi. Am Fic Llithfaen wedyn, a meddwi'n gocls.

Ffyn.


Wele fy mhost blaenorol yn yr edefyn... :D
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Cynyr » Llun 16 Ion 2006 7:06 pm

Dwi di ffeindio fod bodio ar y cyfandir yn llawer haws na'r wlad yma.
Roedd hi'n ffordd gret o fynd i'r gwaith bob dydd yn yr Alpau (tua 6 km) a bron bob dydd y fyddwn yno ar amser! (BRON bob dydd :? )
Ma Portiwgal a Sbaen yn reit neis i fodio. Jest hongian o gwmpas ar ochr ffordd ac ymddangos eich bod yn hanner marw o'r gwres (sydd yn wir). yna 'bobs iwr yncyl' bant a'r cart!! :D .

Nes i fodio o Fangor adref yn ystod Coleg rhywbryd. Son am blydi lwc wrth i lori Mansell Davies fy mhigo i fyny ger y Felinheli a ngollwng tua 2 filltir o Langrannog... a stopio am 'fecyn byti' ar y ffordd 8)
" And Britain defeats the rest of the world to pick up the bronze medal."
Rhithffurf defnyddiwr
Cynyr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 934
Ymunwyd: Llun 12 Gor 2004 10:37 am
Lleoliad: Clancrannock!!

Postiogan Socsan » Maw 17 Ion 2006 10:51 am

Does gen i bron ddim profiad o gwbwl o fodio, a mae
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan y mab afradlon » Maw 17 Ion 2006 9:31 pm

Ges i lifft i Swindon unwaith o Gasgwent, ar hyd yr M4 ar gefn Treisicl modur - Yn lwcus, roedd gwallt byr'da fi ar y pryd.

A rhoddais i lifft i foi o Bont Abraham i Gaerfyrddin am 6 o'r gloch y bore (o'n i ar y ffordd i'r gwaith), a hwnnw 'di meddwi'n rhacs yn Abertawe ar nos Sul ac yn cerdded adre... Roedd e'n ddigon sobor pan ddaeth e i 'nghar i!

Y lifft mwyaf ryfedd falle oedd mewn Lada Riva(y 4x4, ife?) gan ddau offeiriad 'Russian Orthodox' yn Mtscheta, Georgia. Ro'n i a 'nghariad ar y pryd 'di bod yn yfed trwy'r prynhawn, ac yn trio ymddwyn yn gall, tra bod un o'r offeiriaid yn defnyddio'i ychydig eiriau o Gymraeg (Ai cid iw not) tra'n trafod ei fisoedd yng Nghaerdydd a Llambed... :D
y mab afradlon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Gwe 25 Chw 2005 2:23 pm
Lleoliad: ymyl mynydd yng nghwm rhymni

NôlNesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron