Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Sul 29 Mai 2005 6:04 pm
gan Sili
Swni byth yn medru bodio am lifft, dwi'n paranoid o gal lifft gan axe-wielding psychopaths :? Nath Ramirez fodio am lifft heddiw ag oni'n nervous wreck drwy'r bora cofn idda fo golli limbs fo'i gyd. Neith Sioni Size backio fi fyny ar hyn :wps:

PostioPostiwyd: Sad 06 Awst 2005 8:42 pm
gan Y Baswr
Dwi'n bodio i bob man gan mod i rhy dlawd i gael car ne bys ne dacsi ne be bynnag a ma'n ffrindia i ry stingy i roi liffds (enwi neb!) ond dwi bron a byth yn cael y nghodi fyny, dwi'n six foot ag yn edrych fel tramp, ma hyna'n rhoi pobol off dwin meddyl! A ma'r pobol sydd yn rhoi liffts fel arfar yn ffycin nytars! Dwin cofio riw ffarmwr oedd yn edrych fel mexican unwaith, god oddon drewi a dwi dal im yn dalld be oddo'n drio ddeutha fi!

PostioPostiwyd: Llun 08 Awst 2005 8:51 am
gan Fatbob
Dwi'n rhoi liffts yn reit aml, ma'r mwyafrif naill ai isie lifft o ferry Abergwaun neu at y ferry. Mi oedd y boi diwetha i mi bigo fyny yn Wyddel oedd yn chwarae'r banjo, ges i goncert bach reit neis da fe. Mi oedd yr un cyn hynny yn dod o'r Weriniaeth Tsiec ac ar i ffordd i gerdded o amgylch Iwerddon, ffac all o Gymraeg da'r boi(dim Saesneg chwaith) ond mi gaethon ni chat bach reit neis rhwng Hwlffordd ag Abergwaun yn gwneud stumie gwahanol at ein gilydd.

PostioPostiwyd: Llun 08 Awst 2005 9:32 am
gan Blewyn
Lwmp o stori dda Rhodri - tybed os yw'r Americanes dal i fod wrthi'n sgwennu i'r LP...Unwaith erioed u bodiais i (o Dregarth i Lanberis, r'oedd y car wedi concio a 'r'on i'n hwyr i'r gwaith)....ond mae un o'm ffrindiau yn fodwrag heb ail - mae hi wedi bodio o Mozambique i fyny'r dwyrain o'r Affrig i Kenya. Saesnes wyn 'jolly hockey sticks' hanner call - y math o berson sy'n gwneud rhywbeth felna a cael get away efo hi. Fel ddywedodd fy ffrind Paul pan ddringodd Matthew Broderick allan o'r AC vents i ganol y ganolfan rheolaeth yn 'Wargames' - "çont lwcus ! Sa hwnna'n fi swn i wedi dringo allan yn y bogs ia"

PostioPostiwyd: Llun 08 Awst 2005 9:53 am
gan eusebio
Roedd 'na foi ar raglen 'Football's Worst Awaydays' ar Sky neithiwr oedd yn bodio i wylio Sheffield United yn Plymouth!

PostioPostiwyd: Llun 08 Awst 2005 4:22 pm
gan Rhodri Nwdls
Blewyn a ddywedodd:Lwmp o stori dda Rhodri - tybed os yw'r Americanes dal i fod wrthi'n sgwennu i'r LP


Edrych fel bod hi nol yn byw yn Alaska!

PostioPostiwyd: Llun 08 Awst 2005 4:31 pm
gan eusebio
Roedd Cymro Cymraeg yn arfer bod yn awdur i Lonely Planet - llyfrau De America dwi'n meddwl

PostioPostiwyd: Iau 11 Awst 2005 12:06 am
gan gwern
Y Baswr a ddywedodd:Dwin cofio riw ffarmwr oedd yn edrych fel mexican unwaith, god oddon drewi a dwi dal im yn dalld be oddo'n drio ddeutha fi!


Begars can't be chosers.

Oni yn Seland Newydd dipyn o wsnosa yn nol yn bodio a dyma fi yn digwydd dweud wrtha boi yn y car bod ddwi yn mynd i India mewn dipyn. A dyma fo yn dechrau son am ceneithar fo oedd di bod yn trafeilio yn India a am dana hi yn gael ei lladd. Son am neud i chi cachu eich hun. Hefyd gesi fyn mico fynny yn Seland Newydd gan dyn gwyn ma a llwyth o pobol Maori a oni dal yn y dre 2 diwrnod wedyn oherwydd nasa nhi jyst gael parti am tia 2 ddiwrnod non stop.

Os a rhywun arall wedi sylwi bob tro da chi yn bodio mae pobol yn trio gwerthu weed i chi nei yn cynnig weed i chi.

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 5:27 pm
gan Ari Brenin Cymru
Odda nin cerddad o Lanfrothan i Penrhyn neithiwr, pan basiodd ryw gar ni. A nath o ddim sdopio. Ond tua 5 munud yn ddiweddarach daeth yn ol tuag atynt, gwneud 3 point turn a rhoi lifft i ni i Penrhyn!

Ar ol deall roedd y boi yn dod o Romania, ag roedd un or bois arall yn y car sef Ioan Gwil yn ei gofio fo ers iddo fod yn gweithio yn Tesco, roedd o wedi gofyn i Ioan yn Tesco os oedd na Greek Yogurt yn y siop!

Dyma ddeialog a ddigwyddodd yn y car.

Ioan Gwil:"Which country are you from?"

Dreifar:"Romania"

Ioan Gwil:"Are they in the world cup next year?"

Dreifar:"No idea, i'm not playing"

Euron Lard: "Oh, you'r on the bench are you?"

:D

PostioPostiwyd: Sul 15 Ion 2006 7:20 pm
gan blanced_oren
joni a ddywedodd:Dwi byth wedi bodio, ond dwi wedi rhio lifft i un fodiwr yn fy mywyd o Bow Street i Aberystwyth. Ffac, o'dd e'n drewi - ond boi digon dymunol chware teg. Sdim byd yn erbyn pigo lan bodwyr genna i, dwi jyst ddim yn gweld llawer o nhw o gwmpas diwrnode ma.


Dwi 'di roi liffts i ychydig o bobl yn y cefn gwlad. Ond nawr dwi'n tueddu peidio, achos y tro diwethaf fe roddais i lifft i foi o Lanfair Ym Muallt i Gaerdydd, ac ro'n i'n teimlo yn anesmwyth amdano. O'dd e'n actio'n dodgy.

Ond roedd y bobl eraill yn hollol di-drafferth. Un Cymro Cymraeg o Lantwymyn a dyn bach tew o Raeadr Gwy i Landrindod (roedd e'n drewi yn ofnadwy!)