Ydi, mae'r machlud yn hardd yn Aberystwyth ond mae bob amser yn fy atgoffa o gerdd gan Siôn Aled yn Dagrau Rhew sy'n sôn am ymwelwyr ar y prom ar nos Sul ym mis Awst. Dw i ddim yn cofio'r dechrau ond mae'r gweddill yn mynd rhywbeth fel hyn:
... Nos Sul y Sais a weli,
A nos mwy maith ein hiaith ni.
Ai'r machlud sy'n eu hudo? Ai lliwiau'r
gorllewin digyffro?
Ai adar corff sy'n heidio
I weld awr briw machlud bro?
(Golygwyd: Sori nes i ddim sylweddoli mai englyn oedd e.)
Sori am fod mor bruddaidd.