Machlud

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Maw 07 Meh 2005 11:21 am

Ydi, mae'r machlud yn hardd yn Aberystwyth ond mae bob amser yn fy atgoffa o gerdd gan Siôn Aled yn Dagrau Rhew sy'n sôn am ymwelwyr ar y prom ar nos Sul ym mis Awst. Dw i ddim yn cofio'r dechrau ond mae'r gweddill yn mynd rhywbeth fel hyn:

... Nos Sul y Sais a weli,
A nos mwy maith ein hiaith ni.

Ai'r machlud sy'n eu hudo? Ai lliwiau'r
gorllewin digyffro?
Ai adar corff sy'n heidio
I weld awr briw machlud bro?

(Golygwyd: Sori nes i ddim sylweddoli mai englyn oedd e.) :wps:
Sori am fod mor bruddaidd.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 07 Meh 2005 11:26 am

O lynnoedd Gregennan, islaw Cader Idris yn edrych lawr at bont Bermo ag allan tuag at Ly^n ac Enlli.

Y gorau. Nyff sed.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Barrar » Maw 07 Meh 2005 9:29 pm

ma machlud hollol lysh yn Nhrefi^n ger Ty Ddewi yn Sir Benfro. amazin!!!!
Hari! Paid a chwara 'fo hwnna!!
Rhithffurf defnyddiwr
Barrar
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 109
Ymunwyd: Llun 21 Meh 2004 1:31 pm
Lleoliad: fan hyn

Postiogan dawncyfarwydd » Maw 07 Meh 2005 9:56 pm

Welais i mo'r machlud yno, ond mae'r haul yn ei holl ogoniant drwy goed Sir Fôn wrth gerdded o'r Angylsi am y Galeri yn wych. Rôn i wedi anghofio pa mor brydferth y gallai Caernarfon fod cyn gweld yr olygfa yna un pnawn. Yn ogystal, er ffaeleddau'r pentref hwnnw, mae gweld y machlud o Ben Clogwyn yn Nhrefor yn hynod o braf pan ydy hi yn glaear a fymryn yn oer yn brofiad anhygoel hefyd. Dinas Dinlle yn lle arall braf i weld y machlud. A dwi'n cytuno â sian bod y machlud o'i thy hi yn ddymunol iawn.

Ond am y wawr, does unlle gwell na maes carafanau'r steddfod i weld honno! :D
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Postiogan Mr Groovy » Mer 08 Meh 2005 9:58 am

Dwi'n sycyr llwyr am fachlud :wps: Odd machlud neithiwr mor wych odd rhaid i fi sdopio'r car i'w wylio.
Odd yr awyr yn hollol glir a'r haul yn goch goch yn suddo dros Ynyslas a cheg y Ddyfi efo PenLlyn yn y cefndir, mmmmmmmm
(ond yn anffodus, lay-by wrth mynwent Talybont odd y lle gore on i'n gallu ffeindio i sdopio!)

Ma gwawr yn Eryri bob amser yn gorjys, ond dwi'n meddwl mai gwawr dros Machu Picchu odd y mwya dramatic weles i rioed
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Groovy
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 298
Ymunwyd: Iau 11 Rhag 2003 1:54 pm
Lleoliad: Pen yn y gwynt a thraed ar y llawr

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 08 Meh 2005 10:58 am

O Moel Faban yn edrych tuag at Sir Fon ydi'r gorau gen i. Ond yn yr haf, ne mi fydd hi'n bitsh ddu cyn i chdi gyrraedd lawr i'r gwaelod!!
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cawslyd » Mer 08 Meh 2005 11:06 am

Moel y Gest uwch Porthmadog - lle bendigedig i gampio a gwynlio'r machlud.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Siffrwd Helyg » Mer 08 Meh 2005 4:19 pm

Dwi'n dwlu ar y machlud yn Aberystwyth, dros y môr, hyfryd. Yn enwedig gyda pheint oer!

Y wawr mwya bythgofiadwy i fi weld oedd pan on in Sicilly ryw ddwy flynedd yn ôl. Ron ni wedi bod mewn parti drwy'r nos, ac wedi syrthio i gysgu ar do garej y ty. Cefais i a'r ddau Gymro arall oedd yno gyda fi, ein deffro gan yr haul tanboeth yma yn codi dros Mount Etna, ac odd en hollol ffantastig. Don ni ddim cweit yn siwr lle on ni tan i ni ddeffro (ma gwin Sicilly yn reit gryf 'wchi), a odd deffro ar do'r garej ma gyda Mount Etna yn ein gwynebu ni a'r pentref hyfryd 'ma lawr yn y cwm, a'r holl fynyddoedd ffantastic on cwmpas ni yn fythgofiadwy. waw.

Peth da 'di'r haul de?!
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Postiogan Lodes Fech Glen » Mer 08 Meh 2005 5:23 pm

Dylife- Yn dod lawr o Benfforddlas i Fachynlleth- Mae'r olygfa yn hyfryd, yn werth ei weld.
Ooo Diar!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Lodes Fech Glen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 108
Ymunwyd: Sad 12 Chw 2005 9:50 pm
Lleoliad: Maldwyn

Postiogan Mali » Iau 09 Meh 2005 1:51 am

Sunset Point yn Cox Bay, ar ochr Orllewinol Ynys Vancouver.
http://www.pacificsands.com/gallery/postcard34.php
8)
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

NôlNesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron