Weeeeel, penwythnos da iawn yn Amsterdam rhaid dweud! A diolch am y cyngor am lle i fynd!
Yn anffodus gathon ni ddim amser i fynd i weld Boom Chicago (tro nesa!!), ond athon ni i'r Rijksmuseum (dim ond ychydig ohono fe odd ar agor), amgueddfa Van Gogh (da iawn), amgueddfa Anne Frank (llawn iawn iawn iawn a crampd ac wedi ei drefnu yn wael, ond werth mynd pan mae LLAWER tawelach), ryw amgueddfa celf modern odd yn dda (ond dim ond hanner o fe odd ar agor, eto!), gan deithio rhwng pobman ar y 'canal bus' odd yn handi. Nath e bisho bwrw yr holl amser tho. Gyted.
Don i ddim yn impresd 'da'r RLD - athon ni tua 8 nos Sadwrn ac odd llawn dop o bobl hollol doji a seedy a yyyyych. Falle on i rhy sobor a diniwed. Caffis da tho
Ti'n iawn am y trams a'r beics gyda llaw Dielw - nes i bron cael yn lladd ddege o weithie! Ac, wwwwww, bwyd Indionesian ffein!
Felly, penwythnos dda iawn - ac os na chi di bod yn barod, mae'n werth trip, hyd yn oed os jyst i weld yr 'hash museum'!