Warsaw

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Warsaw

Postiogan Glewlwyd Gafaelfawr » Mer 06 Gor 2005 1:30 pm

Dwi dal yn ceisio penderfynu os dwi am fynd i Warsaw i weld Cymru'n chwarae ym mis Medi.
Pa mor ddiogel ydy'r ddinas i ddyn yn teithio ar ei ben ei hun (Gwilym Digyfaill)?
Beth ydy cyflwr y drafnidiaeth gyhoeddus?
Os yna ddigon i'w weld yno?
Awgrymiadau am lefydd i aros sy'n rhad, ac yn agos i ganol y ddinas/Legia stadion?
Argaeledd cywarch?
Unrhyw sylwadau pellach?
Maes-e.com-
Gwefan sy'n lleihau'r gofod
Bydd Cymru'n rhydd yn ei rhod

http://www.storz-bickel.com
Rhithffurf defnyddiwr
Glewlwyd Gafaelfawr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 813
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 3:26 pm
Lleoliad: Caerffili

Re: Warsaw

Postiogan huwcyn1982 » Gwe 15 Gor 2005 9:29 pm

Mae'n ddinas hyfryd. Bues i yno ym 1998 gyda'r teulu. Sai'n siwr os oes lot di newid mewn 7 mlynedd, ond roedd yn hollol wahanol i be o'n i'n disgwyl.
Mae'n ddinas fodern, gyda rhannau prydferth a hardd, ac ardaloedd eraill i osgoi.
Yn y canol mae digon i weld, "Stalin's Shadow" - adeilad anferth o amser USSR y ddinas sy'n weladwy o bron bob ardal o'r ddinas a ma' ambell i drigolyn y ddinas yn poeri ato'n ddyddiol... Ond golygfeydd gwych o'r top!

Cafodd y ddinas i gyd ei ail-adeiladu wedi'r ail rhyfel byd, felly does dim son am ghetto's a slymiau oni bai am y blociau o fflatiau concrit - ond dim gwaeth na weler o amgylch dinasoedd mawr Prydain.

Palas Wilanow yn arbennig.

Newydd ffeindio hwn, gobeithio mae'n help!
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Warsaw

Postiogan pogon_szczec » Sad 23 Gor 2005 9:56 pm

Glewlwyd Gafaelfawr a ddywedodd:Dwi dal yn ceisio penderfynu os dwi am fynd i Warsaw i weld Cymru'n chwarae ym mis Medi.
Pa mor ddiogel ydy'r ddinas i ddyn yn teithio ar ei ben ei hun (Gwilym Digyfaill)?


Mae Gwlad Pwyl yn gyffredinol yn weddol saff.

Fyddi di'n gweld cryn dipyn o steroid enhanced skinheads, ond dyw Pwyliaid ddim yn ymosodol iawn, fyddan nhw ddim yn achosi problemau i ti os nad wyt ti'n achosi problemau iddyn nhw.

Ond ......... mae na un eithriad ........ cefnogwyr pel-droed.

O ran trais mae'n eitha bosibl taw nhw yw'r gwaetha yn Ewrop, a mae cefnogwyr Legia ymhlith y gwaetha yng Ngwlad Pwyl.

Dwi ddim yn tynnu dy goes fan hyn - dwi'n mynychu gemau Cynghrair Gwlad Pwyl yn gyson.

Efallai ni fydd problemau i gefnogwyr Cymru yn Warsaw, ond dwi ddim yn gwybod beth yn gwmws yw agwedd cefnogwyr Gwlad Pwyl tuag at gefnogwyr o Gymru.

Mwy na thebyg dyn nhw ddim yn gweld gwahaniaeth rhwng Cymry a Saeson.

Tasen i yn dy le basen yn ofalus iawn yn Warsaw.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Re: Warsaw

Postiogan eusebio » Sul 24 Gor 2005 2:37 pm

pogon_szczec a ddywedodd:Efallai ni fydd problemau i gefnogwyr Cymru yn Warsaw, ond dwi ddim yn gwybod beth yn gwmws yw agwedd cefnogwyr Gwlad Pwyl tuag at gefnogwyr o Gymru.


wel roedden nhw'n uffernol o gas tro diwethaf ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Warsaw

Postiogan pogon_szczec » Sul 24 Gor 2005 4:27 pm

eusebio a ddywedodd:
wel roedden nhw'n uffernol o gas tro diwethaf ...


Be ddigwyddodd :?:

Ychydig o flynyddoedd yn ol cafodd cefnogwr Pogon Szczecin ei ladd mewn gem rhyngwladol gan gefnogwr Cracovia Cracow.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Re: Warsaw

Postiogan Norman » Llun 25 Gor 2005 1:51 pm

pogon_szczec a ddywedodd:Tasen i yn dy le basen yn ofalus iawn yn Warsaw.


Yn ystod y gem - ta drwy'r amser?
h.y. - dwin meddwl mynd diwadd awst / medi - ydi'n syniad sal rhoi fflag Cymru ar y rucksac ?
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan Glewlwyd Gafaelfawr » Maw 26 Gor 2005 8:11 am

Pogon_Szczec
O ran trais mae'n eitha bosibl taw nhw yw'r gwaetha yn Ewrop, a mae cefnogwyr Legia ymhlith y gwaetha yng Ngwlad Pwyl.


Diolch am y cyngor. Roedd fy ffrindiau yn dweud fy mod yn wallgof am feddwl am fynd, a dwi wedi gadael pethau braidd yn hwyr cyn bwcio unrhyw beth eto, felly dwi'n meddwl y byddai'n ddoeth i mi gadw fy arian at daith arall yn y dyfodol yn lle mynd i Wlad Pwyl. :?
Methu aros tan ddiwedd mis Ionawr pan gaiff yr enwau eu tynnu o'r het ar gyfer y grwpiau ar gyfer gemau rhagbrofol Ewro 2008 :P
Maes-e.com-
Gwefan sy'n lleihau'r gofod
Bydd Cymru'n rhydd yn ei rhod

http://www.storz-bickel.com
Rhithffurf defnyddiwr
Glewlwyd Gafaelfawr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 813
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 3:26 pm
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Wya » Maw 26 Gor 2005 12:20 pm

Dwi'n meddwl eich bod chi'n poeni gormod. Pan oeddwn i yno, doedd y bobol leol ddim yn hoff o saeson o gwbwl, ond wedi'r cyfan, mynd draw yno fel cefnogwr Cymru wyt ti felly wrth gwrs y bydd cefogwyr Gwlad Pwyl yn gallu dweud y gwahaniaeth. Dydyn nhw ddim yn ddwl. Os ydyn nhw'n mynd i weld gem Pwyl yn erbyn Cymru, yna dydyn nhw ddim am gam gymryd nac ydyn!! Ma'r ddinas yn un rhyfedd......eitha tywyll, efo adeiladau mawr sgwar digalon, tra mae rhannau o'r hen ddinas yn fendigedig. Ond mae na ddigon o bethau i'w gwneud yno. Galli di aros mewn llong fechan sydd wedi cael ei throi yn Hostel (Boatel) am oddeutu £10 y noson. Profiad a hanner, cael peint (12%vol)am lai na phunt, a profi Gwlad Pwyl gyda joch o vodka!
Wya
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 07 Gor 2005 2:06 pm
Lleoliad: Rownd y byd

Postiogan Elsan » Gwe 29 Gor 2005 12:49 pm

Lle diogel a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddim problam. Paid a chael dy siomi wrth gyrraedd y ddinas falla efo trên achos dydy'r cyrrion yn ddim ond adeiladau digalon a digon hyll yn fy marn i. Dyna pam y baswn yn argymell i chdi fynd i chwilio am yr Hen Dref. Bendigedig. Adeiladau hardd iawn. Peint yn rhad 8) a'r rhan fwyaf o lefydd bwyta hefyd. Dwin cofio meddwl sut y basa'r ffordd haws i egluro wrth yrrwr tacsi o lle'r oeddan yn dod heb orfod defnyddio Lloegr ond doedd dim angan-roedd y dyn yn gwbod yn iawn ac wedi bod yng Nghaedydd sawl tro! Ddim yn shwr sut i'w sgwennu ond 'Cymru' medda fo ydi 'Valia' yn ei hiaith nhw. Paid â mentro gadael y wlad heb ymweld â dinas Kracaw hefyd. Dos yno ac mi gei di weld be dwin feddwl.
Joia. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Elsan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 63
Ymunwyd: Iau 24 Maw 2005 6:04 am
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Elsan » Gwe 29 Gor 2005 12:52 pm

O ia, dwin cytuno hefo Wya - dachi'n poeni gormod :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Elsan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 63
Ymunwyd: Iau 24 Maw 2005 6:04 am
Lleoliad: Pen Llyn


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai