Thailand, tua pymtheg mlynedd yn ol. Aros mewn hyts bach cwl ar y traeth lle roedd partion acid house rheolaidd, llogi motobeics i deithio rownd yr ynysoedd, temlau ysblenydd a lliwgar ymhobman, cerdded trwy'r jwngl am dridiau ac aros mewn pentrefi llwythi nomadig, reidio ar gefn eliffant hyfryd lawr ochr mynydd, paffio Thai, dysgu syt i fwynhau y cyris mwyaf mental o grasboeth erioed, gweld yr haul yn codi a gwylio pobl yn ymarfer eu yoga a tai chi ar y traeth, gweld yr haul yn machlud tra'n edrych dros y mynyddoedd i gyfeiriad Burma...
A Bangkok! Y ddinas mwyaf gorffwyll a gwyllt i mi brofi erioed. Pobol gret hefyd.
A phob atgof melys o'r lle yn cael ei weld trwy'r par hyfrytaf o sbectol lliw rhosyn yn fy meddiant. Aaaaaaah! Thailand...