Wedi cwbwlhau y cymal cyntaf o'm taith y penwythnos sydd newydd fod. Hynny yw dwi wed bod i ardal Bae Barafundle gyda fy mhabell newydd.
Dyma ni'n aros ar fferm Windmill Hill Farm. Roedd yn gyfleus iawn i dref Penfro ac i draethau Bae Barafundle a Broad Haven. Byddwn yn cyd-dynd â'r holl adolygiadau hael sydd ar y wefan, er mae'r pris wedi codi i £3.50 y person/y noson, sy'n dal yn rhesymol o ystyried ansawydd y cyfleusterau sydd yno. Bydd lluniau diflas ar fy mlog rhywbryd (efallai).
Croeso i chi gynnig awgrymiadau eraill ar gyfer gwersylla rhwng Machynlleth a Harlech