Ble i wersylla: Bae Barafundle/ rhwng Machynlleth a Harlech

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ble i wersylla: Bae Barafundle/ rhwng Machynlleth a Harlech

Postiogan Rhys » Maw 12 Gor 2005 12:40 pm

Dwi'n bwriadu ymweld â'r ddau ardal hyfryd yma yr haf hwn gyda fy mhabell newydd ond tydwi i erioed wedi bod i Fae Barafundle a rioed wedi gwersylla yn ardal Machynlleth.

Sgin rhywun awgrymiadau am faesydd pebyll gweddol dawel (gyda cawod dŵr poeth), o fewn pellter cerdded i dafarn a gore oll os mai Cymry Cymraeg sy'n berchen arnynt.

Diolch
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Cardi Bach » Maw 12 Gor 2005 1:09 pm

Wy'm yn gyfarwydd ag ardal Barafundle, na chwaeth de Sir Benfro. Ond os wyt ti am fynd fwy i ogledd y sir mae Felindre Farchog, Tidreth, i Abergwaun yn odidog.

O ran arfordir Gwynedd, mae yna wersyllfeydd yn ardal Arthog. Wy'n siwr bod yna wersyll campo ar bwys Llangelynnin, sydd yn odidog o le, ac ma Llynnoedd Cregennan, Cader Idris, Pared y Cefn Hir, Tyrau Mawr ac aber y Fawddach nepell oddi yno - mae aber y Fawddach wedi cael ei ddewis fel un o'r aberoedd perta yn Ewrop! Mae hyn yn tanbrisio yn llwyr godidowgrwydd yr aber - un o'r hyfryta yn y byd, heb os :D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhys » Maw 12 Gor 2005 1:20 pm

Rhaid iddo fod yn Bae Barafundle, naiff dim lle arall y tro yn ol Sarah. Dywedodd ei rheini ei fod yn odidog ac mae albwn GZM wedi ei enwi ar ôl y lle :) . Dwi'n amau dim bod gogledd sir benfro'n ddeliach.

Wedi bod yn astudio'r map dros y penwythnos ac mae'r enw Llangelynnin yn canu cloch. Byddai bod yng nghysgod Cadair Idris yn wych neu ar yr arfordir. Ni'n bwriadu mynd i Ganolfan Technoleg Amgen, Abergynolwyn, a bro bedydd fy nhad sef Dyffryn Ardudwy, ond dwi ddim yn ffansio Shell Island.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 12 Gor 2005 4:18 pm

Cardi Bach a ddywedodd:O ran arfordir Gwynedd, mae yna wersyllfeydd yn ardal Arthog. Wy'n siwr bod yna wersyll campo ar bwys Llangelynnin, sydd yn odidog o le, ac ma Llynnoedd Cregennan, Cader Idris, Pared y Cefn Hir, Tyrau Mawr ac aber y Fawddach nepell oddi yno - mae aber y Fawddach wedi cael ei ddewis fel un o'r aberoedd perta yn Ewrop! Mae hyn yn tanbrisio yn llwyr godidowgrwydd yr aber - un o'r hyfryta yn y byd, heb os :D


Eiliaf heb os! Mae na le gwersylla mewn llecyn hyfryd ar ffordd y Gader sy'n arwain fyny at Gregennan a'r Gader ond allai'm yn y myw a chofio ei henw...mi ddaw, neu galli di fynd i ffarm Vanner yng nghysgod Abaty Cymmer - teulu Cymraeg fan'na (deu' helo wrth Geraint!), ma Elfed campseit [url=Tanyfron Caravan & Camping Site]Tanyfron[/url] yn siarad Cymraeg ac yn dipyn o ges ond i wraig o sy'n rhedag y campseit.

Alli di'm mynd yn bell rong efo maes carafannau Archie fyny ar ffordd Llanfachreth 'fyd - sgen i'm clem be di enw honna chwaith ddo...
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Aranwr » Maw 12 Gor 2005 5:12 pm

Fedri di ddim aros YN 'Bae Barafundle' fel y cyfryw... does dim pentre na dim 'na, jysd traeth pert. Y lle agosa yw Stackpole Key ac o fynna ti'n gallu cerdded i'r bae ar draws llwybr yr arfordir. Ma'r National Trust yn rhedeg y lle a ma' raid ti dalu rhyw £2 i gyrradd y tra'th. Tra ti yn Ne'r Sir pam ddim ymweld a rhen Ddinbych y Pysgod - lle hyfryd! :winc:

O.N. Falle bydd rhaid ti fynd i Freshwater East i gampo ddo chos sai'n cofio gweld campsite yn Stackpole. Dyw'r lle 'na ddim yn rhy neis... let's jysd gweud nad yw'r freshwater ddim yn rhy ffresh! Still, ma' ddi'n le poblogaidd i dwristiaid!
"Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."

Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!
Rhithffurf defnyddiwr
Aranwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 329
Ymunwyd: Sad 29 Ion 2005 6:43 pm
Lleoliad: Durham / Dinbych y Pysgod

Postiogan Rhys » Mer 13 Gor 2005 11:52 am

Diolch i chi gyd am yr awgrymiade,

Dwi'n sylwi nad oes modd gwesylla'n rhy agos i Fae Barafundle a diolch am y rhybudd am y dŵr ffres! Efallai byddai'n medru gwasgu mewn ymweldiad a Dinbych y Pysgod. Dwi rioed wedi bod yno ond sawl un yn drysu a meddwl mai o fanu dwi'n dod pan dwi'n dweud mai o Ddinbych dwi'n dod. :rolio: :)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Chwadan » Mer 13 Gor 2005 1:45 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Alli di'm mynd yn bell rong efo maes carafannau Archie fyny ar ffordd Llanfachreth 'fyd - sgen i'm clem be di enw honna chwaith ddo...

Cefnmaelan...? Dwi'm yn siwr, rioed di aros yna :D Ond ma mewn lle neis iawn a thua milltir o dafarndai'r dre. Am fwy o wybodaeth, ma gennai ffrind del iawn yn gweithio yn y lle twrists ar Sgwar Dolgelw :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Fatbob » Mer 13 Gor 2005 3:54 pm

Os wyt ti am fynd i Barafundle, cer i weld y traeth nesa ato fe 'fyd - Broad Haven South, ac os i ti ffansi bach o wac, cadw ar lwybr yr arfordir a mi ddei di at Gapel St Govan's sydd 'to yn werth i'w weld. Wy'n cytuno da Aranwr am Freshwater East, ond os wyt ti'n syrffio ma Freshwater West yn werth ymweld â (ond paid mynd i gerdded yn y twynni ma na li o nadredd yn byw yna).

Ma Dinbych y Pysgod yn le gwych i dreulio nosweth, llawn siope £1, tafarnde, chav's a ffarmwrs.
How many times do I have to tell you? You don't put a bra in a dryer! It warps!
Rhithffurf defnyddiwr
Fatbob
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 478
Ymunwyd: Maw 21 Hyd 2003 1:38 pm
Lleoliad: Yn y peiriant golchi.

Postiogan Aranwr » Mer 13 Gor 2005 4:19 pm

Fatbob a ddywedodd:Ma Dinbych y Pysgod yn le gwych i dreulio nosweth, llawn siope £1, tafarnde, chavs a ffarmwrs.


O'r diwedd, brawddeg sy'n disgrifio Dinbych y Pysgod i'r dim. Succint a superb! Diolch Fatbob.

Broadhaven South yw traeth ore'r byd... nid mater o farn, an established fact!

O.N. Siarad am siope £1, ma' da ni nawr THE ONE POUND WAREHOUSE yn DYPysgod. Dyma big-daddy pob bargain box a buddha'r brill buys - hafan o back of the lorry goods yn gwerthu popeth o feather dusters i declynnau braidd yn fwy amheus (batteries included wrth gwrs!). Er efalle braidd yn anymunol ma fe'n werth wac o gwmpas. Ma'r chavs i gyd yn obsessed 'da fe. A'r ffarmwrs fyd nawr dwi'n meddwl am y peth.

Aaa (ochenaid o foddhad). Tenby. The land of dreams! :winc:
"Ma' llwyddiant yn dy wneud di'n glyfar ond ma' methiant yn dy wneud di'n ddoeth."

Gwefan Ha Kome!
Fisie prynu CD Ha Kome!
Rhithffurf defnyddiwr
Aranwr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 329
Ymunwyd: Sad 29 Ion 2005 6:43 pm
Lleoliad: Durham / Dinbych y Pysgod

Postiogan Siffrwd Helyg » Llun 18 Gor 2005 1:17 pm

Beth am bentre' Bosherston (sillafu?!) sydd wrth ymyl Barafundle? Ryw filltir o Barafundle dwi'n meddwl... Mae na le campio hyfryd 'na, reit ar bwys traeth Bosherston... Ond sain cofio ei enw ar y funud... Hmmm... Ardal hyfryd tho 8)

Dwi'n dueddol o fynd yn conffiwsd rhwng enwau llefydd, felly gobeithio mod i'n meddwl am y lle iawn.... :? !
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron